Cymanfa i ddathlu pen-blwydd

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn addoliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y Gymanfa dathlu yn cael ei gynnal yng Nghapel Seion Aberystwyth

Cyn bennaeth cerddoriaeth ysgol uwchradd sydd wedi ennill cystadleuaeth arbennig i nodi 50 mlynedd ers dechrau'r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Roedd Enid Gruffydd, cyn bennaeth cerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth am emyn dôn i gyd-fynd a geiriau gan y bardd Siôn Aled.

Bydd yr emyn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf mewn Cymanfa ddathlu arbennig, ac yn ei ganu bydd Cantorion Menai, sef y côr mae Enid wedi ei arwain er 2002.

Cafodd y Gymanfa dathlu ei chynnal yng Nghapel Seion Aberystwyth am 2pm ddydd Sul.

Cafodd y Gymanfa ei recordio ar gyfer rhaglen arbennig i ddathlu'r pen-blwydd fydd i'w gweld ar S4C ar nos Sul Tachwedd 6.

Daw Enid yn wreiddiol o Lwynhendy ger Llanelli.

"Cerddoriaeth yw fy mywyd a dwi wedi fy nhrwytho yn yr emyn," meddai Enid, sy'n wreiddiol o Lwynhendy ger Llanelli.

Cyfansoddi

"Roedd canu yn bwysig ym mywyd y capel pan oeddwn i'n blentyn ac fe enillodd fy nhad y Rhuban Glas yn Eisteddfod Glyn Ebwy 1958."

Fe drodd Enid at gyfansoddi'r emyn ar gyfer y gystadleuaeth yn dilyn marwolaeth ei gŵr, fu farw ar ôl cyfnod hir o salwch.

"Mi welais i'r gystadleuaeth ym Mhapur Menai bythefnos cyn y dyddiad cau, a phenderfynu ei bod hi'n bryd i mi ddechrau cyfansoddi eto," esboniai Enid, sydd wedi enwi'r emyn dôn ar ôl ei hwyres saith mlwydd oed Emma Leah.

"Roeddwn i'n meddwl bod 'Leah' yn enw da ar gyfer emyn-dôn," esbonia Enid. "Mi wnes i gyfansoddi dau ddarn ar gyfer y gystadleuaeth am nad oeddwn i'n gwybod beth fyddai'r beirniaid yn hoffi. Mae'r dôn Leah yn weddol draddodiadol, tra bod y llall yn fwy modern neu off beat. Fe enwais y dôn honno ar ôl fy ŵyr Daniel."

Dywedodd Alwyn Humphreys, un o feirniaid y gyfres ac aelod o dîm cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol: "Derbyniwyd 39 o gynigion i gyd o safon ardderchog.

"Mae nifer ohonyn nhw'n haeddu gweld golau dydd a dwi'n gobeithio y bydd rhai ohonyn nhw yn cael eu canu gyda geiriau gwahanol.

"Fe gamodd Leah i'r blaen oherwydd roedd fel petai'r geiriau wedi eu bwriadu ar ei chyfer hi. Mae hi'n hynod o ganadwy a dwi'n mawr obeithio y bydd hi'n dod yn glasur."