Damwain: Dyn wedi marw

Mae dyn wedi cael ei ladd mewn damwain ffordd ym Mannau Brycheiniog.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra a Nissan Navara ar yr A470 ger Storey Arms tua 2.40pm ddydd Gwener.

Cafodd dwy fenyw eu hanafu yn y damwain.

Cafodd un o'r menywod ei chludo i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful a chafodd y llall ei chludo i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.

Fe gafodd yr A470 a'r A4059 ei chau wrth i'r heddlu cynnal eu humchwiliadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.