Ffatri: Cemegyn wedi ei ollwng
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion sy'n gweithio yn ffatri gemegol Dow Corning yn y Bari ym Mro Morgannwg wedi cadarnhau bod cemegyn wedi ei ollwng fore Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod Hydrogen Clorid wedi ei ollwng yn agos i ffin y ffatri ond doedd y cemegyn heb groesi'r ffin.
Ychwanegodd nad oedd y gollyngiad yn un fawr.
Cafodd seiren ei seinio am 6.30am fel rhybudd i'r gymuned leol.
Bellach mae'r rhybudd ar ben.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol