Damwain: Tri yn dal yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae un person mewn cyflwr sefydlog mewn ysbyty ym Mryste yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl car ar draffordd yr M4 ddoe.
Cafodd tri pherson arall eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.
Mae disgwyl i un ddynes adael oddi yno yn nes mlaen heddiw, fe gafodd y ddynes arall adael wedi iddi gael triniaeth neithiwr.
Cafodd y pedwar eu cludo i'r ysbyty yn dilyn damwain ffordd rhwng chwe cherbyd ar ffordd yr M4 yng Nghasnewydd ddydd Gwener.
anafiadau sbinol difrifol
Cafodd ffordd yr M4 ei chau i adael hofrennydd ambiwlans i lanio i drin y cleifion yn dilyn y damwain ddigwyddodd rhwng cyffordd 24 yng Ngholdra a chyffordd 25 yng Nghaerleon
Y gred yw bod ciwiau o draffig wedi estyn am naw milltir rhwng Casnewydd a Phont Hafren cyn i'r ffordd cael ei hail-agor am 5pm ddydd Gwener.
Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod tri o bobl wedi eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.
Cludodd yr hofrennydd bedwerydd person oedd yn dioddef o anafiadau sbinol difrifol i Ysbyty Frenchay ym Mryste.