Angladd y glöwr Garry Jenkins

Garry Jenkins Image copyright Other
Image caption Dywedodd teulu Mr Jenkins ei fod yn "dad anhygoel"

Cafodd angladd un o'r glowyr fu farw mewn damwain drasig yn gynharach yn y mis ei chynnal ddydd Sadwrn.

Yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isaf am 11.30am oedd gwasanaeth angladdol Garry Jenkins a oedd yn 39 oed.

Bu farw Mr Jenkins, Philip Hill, Charles Breslin a David Powell ym Mhwll Y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe ar Fedi 15.

Dywedodd teulu Mr Jenkins ei fod yn "dad anhygoel" ac yn arbennig ym mhob ffordd".

'amgylchiadau trist'

Dywedodd datganiad gan deulu Mr Jenkins yn dilyn ei farwolaeth: "Rydyn ni am ddweud fod Garry yn arbennig ym mhob ffordd.

"Roedd e'n ddyn hapus ac yn weithiwr caled oedd wastad â gwên ar ei wyneb.

"Roed e'n dyn fyddai'n fodlon helpu unrhywun."

Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn angladd Mr Breslin ddydd Mercher.

Cafodd angladd Mr Hill ei gynnal ddydd Gwener.

Does 'na ddim dyddiad eto wedi ei nodi ar gyfer angladd Mr Powell.

Cafodd cwest i'r pedwar glöwr ei agor gan Grwner Castell-nedd Port Talbot, Philip Rogers, yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, ddydd Mawrth.

Mae'r cwest wedi ei ohirio.

Dywedodd Mr Rogers bod "amgylchiadau trist" wedi arwain at farwolaethau'r pedwar.

Doedd teuluoedd y pedwar glöwr ddim yn bresennol yn y gwrandawiad a barodd am ychydig o funudau.

Straeon perthnasol