Sir Benfro: Codi tâl am godi tai unigol

  • Cyhoeddwyd
Pen Strwmbwl yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol dros y tair blynedd nesaf

Bydd rhaid i bobl sydd yn adeiladu tai nad ydynt yn rhan o gynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy dalu tâl o dan gynllun newydd gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bwriad codi ardoll ar dai preswyl unigol yw helpu cynyddu stoc tai fforddiadwy yn Sir Benfro.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol dros y tair blynedd nesaf.

Yn y pen draw gallai pobl fydd yn adeiladu cartref â thair ystafell wely dalu ffi o £25,000.

Diffygion

Ar hyn o bryd mae yna 400 o bobl ar restr aros tai'r ardal.

O ganlyniad mae'r awdurdod am i 530 o dai fforddiadwy newydd gael eu hadeiladu erbyn 2021.

Ond mae datblygwyr tai lleol yn honni bod gan y cynllun ddiffygion.

Dywedodd Martina Dunne, pennaeth datblygu a chynllunio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Rydyn ni'n gofyn i hanner y tai sy'n cael eu hadeiladu ar ystadau gyda dau neu mwy o dai yn y parc cenedlaethol i fod yn dai fforddiadwy.

"Rydyn ni eisiau bod yn gyfiawn felly rydyn ni'n gofyn am gyfraniad tebyg o ddatblygiadau ag un tŷ."

Ychwanegodd Ms Dunne mai nifer bychan o ddatblygiadau fyddai'n gorfod talu'r ardoll oherwydd nid oedd tai fforddiadwy nac adeiladu byddai'n cael eu hadeiladu ar safleoedd hen dai yn rhan o'r cynllun.

Mae datblygwr tai o Lawrenni, David Lort-Phillips, wedi beirniadu'r cynllun.

Mae e'n ofni y bydd mwy o gartrefi gwyliau yn cael eu hadeiladu am nad ydynt yn rhan o'r cynllun.

"Mae'r cynllun wedi mynd yn draed moch," meddai Mr Lort-Philips.

"Mae hwn yn bolisi anghywir yn y lle anghywir yn ystod yr amser anghywir wedi ei sefydlu gan y bobl anghywir."

Bydd yr arian fydd yn cael ei godi gan yr ardoll yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir Penfro i gyllido dwy gymdeithas tai bydd yn creu prosiectau tai fforddiadwy yn y dyfodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol