Hull 2-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Not Specified

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi disgyn i'r wythfed safle yn y Bencampwriaeth wedi iddynt golli oddi-cartref i Hull ddydd Sadwrn.

Matty Fryatt sgoriodd gôl gynta'r gêm ar ôl 39 munud ond cyn hynny cafodd Caerdydd ergyd drom pan fu rhaid i Kenny Miller adael y cae gydag anaf dim ond 9 munud ar ôl dechrau'r ornest.

Ymysg eilyddion Yr Adar Gleision oedd, Joe Ralls, a arwyddodd ei gytundeb proffesiynol gyntaf dim ond 48 awr cyn y gic gyntaf.

Daeth Ralls ymlaen i'r cae yn lle Miller ac fe lwyddodd yr ymosodwr 17 oed i ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal pan rwydodd ar ôl 62 munud.

Ond Hull gipiodd y pwyntiau wrth i gyn ymosodwr Lloegr, Nicky Barmby, rwydo i'r gornel chwith naw munud yn ddiweddarach.

Dyna oedd diwedd y sgorio, sy'n golygu bod Caerdydd yn disgyn i'r wythfed safle yn y tabl.

Tabl y Bencampwriaeth