Dwy gôl mewn tair munud

Image copyright Other

HAYES & YEADING 0-2 WRECSAM

Mae Wrecsam ar frig y tabl oherwydd dwy gôl mewn tair munud yn yr ail hanner.

Nathaniel Knight-Percival rwydodd gynta wedi cic gornel Jamie Tolley i'r postyn pella.

Mathias Pogba sgoriodd yr ail wedi chwarae anniben rhwng Tom Cadmore a Steve Arnold.

Er gwaetha ymdrechion clodwiw Tolley ac Adrian Cieslewicz ar ran y Cymry llwyddodd Arnold i arbed y bêl.

Logo Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

CASNEWYDD 0-3 SOUTHPORT

Ni chafodd rheolwr newydd Casnewydd, Justin Edinburgh, ddechrau addawol wrth i'w dîm golli 0-3 gartre i Southport.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen pan beniodd Simon Grand.

Wedyn peniodd Karl Ledsham wedi i Tony Gray groesi'n grefftus a sgoriodd Gray'r drydedd gôl wedi gwaith arbennig Andy Owens.

Hon oedd y drydedd fuddugoliaeth o'r bron i'r ymwelwyr.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.