Seintiau'n dangos esiampl
- Published
Mae'r Seintiau Newydd ar frig y tabl wedi iddyn nhw guro Caerfyrddin 4-0.
Sgoriodd Matty Williams yn gynnar yn y gêm ac roedd ei gic rydd lwyddiannus yn yr ail hanner yn ergyd fawr.
Wedyn peniodd Greg Draper a saethodd Christian Seargeant o bell.
Gwŷr Sir Gâr felly'n gorfod mynd adre'n waglaw unwaith eto.
Dyma ganlyniadau'r Uwch-Gynghrair dros y penwythnos:
Dydd Sadwrn
Dinas Bangor 3-1 Port Talbot
Llanelli 2-0 Aberystwyth
Seintiau Newydd 4-0 Caerfyrddin
Lido Afan 0-1 Bala
Dydd Sul
Airbus 3-2 Y Drenewydd
Castell-nedd 3-1 Prestatyn
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol