Damwain ffordd: Llanc wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 17 oed wedi marw mewn damwain ffordd yn Bracla ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y llanc yn gyrru car Vauxhall Corsa lliw arian ar hyd Heol Simonston ger amlosgfa Llangrallo pan aeth oddi ar y ffordd a tharo coeden tua 5.45pm ddydd Sadwrn.
Roedd y gyrrwr yn byw'n lleol a doedd neb arall yn y car ar y pryd.
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ynglŷn â'r ddamwain.
Cafodd y ffordd ei chau am 5 awr tra bod yr heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol