Cymru 66 - 0 Fiji
- Cyhoeddwyd

Daeth Cymru i Stadiwm Waikato yn Hamilton i wynebu Fiji yn gwybod y byddai un pwynt yn ddigon i sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Y Byd.
Ond fe fyddai buddugoliaeth dda yn codi'r hyder cyn mynd i'r rownd yna, ac fe ddechreuodd tîm Warren Gatland gyda phwrpas a phenderfyniad.
Pan ddaeth cais cynnar i Jamie Roberts, fe gododd ysbryd y tîm yn syth, ac fe welwyd rygbi agored gan yr olwyr oedd yn bygwth Fiji gydol yr hanner cyntaf.
Yn dilyn ei hat-tric yn erbyn Namibia, fe ychwanegodd Scott Williams gais arall, a gyda chicio cywir Rhys Priestland roedd Cymru'n cadw'r sgorfwrdd i symud.
Pwynt bonws
Yn 2007, Fiji oedd y tîm a orfododd Cymru allan o'r gystadleuaeth yn gynnar, ond doedd dim perygl o hynny wrth i seren y gêm, George North, groesi am gais arall - Priestland yn trosi eto.
A chyn yr egwyl, roedd lle Cymru yn yr wyth olaf yn gwbl ddiogel wrth i gais Sam Warburton goroni perfformiad gwych arall ganddo a sicrhau'r pwynt bonws angenrheidiol gan roi Cymru 31 pwynt i ddim ar y blaen.
Yn ogystal â'i gicio, roedd rhedeg Rhys Priestland yn effeithiol hefyd - gan achosi cur pen i Gatland wrth ddewis ei 15 gorau i'r gêm nesaf - ac roedd e'n allweddol yn y symudiad arweiniodd at bumed cais y gêm i Gymru, ac ail i Jamie Roberts yn fuan yn yr ail hanner.
Gyda'r fuddugoliaeth yn gwbl sicr, y dasg nesaf i Gymru oedd gosod marc ar gyfer gweddill y gystadleuaeth, ac fe lwyddon nhw i wneud hynny hefyd.
Dau eilydd ddaeth a'r pwyntiau nesaf - Lloyd Burns y bachwr yn croesi am gais a Stephen Jones yn trosi i fynd â Chymru dros y deugain.
Pryder
Daeth eiliad o bryder i Gymru wrth i Jamie Roberts adael y maes gydag anaf i'w ysgwydd, ond does dim manylion wedi eu cyhoeddi am ddifrifoldeb yr anaf.
Gyda'r hyfforddwr amddiffyn Sean Edwards wedi gosod nod i'w dîm o beidio ildio cais yn erbyn Fiji, ac fe ddaeth cyfnod o amddiffyn cadarn cyn i gic ryfeddol gan Gethin Jenkins o'i 22 ei hunan arwain at gais i Leigh Halfpenny.
Cyn y gystadleuaeth roedd rhai wedi synnu gweld enw Lloyd Williams yn y garfan, ond mae pawb bellach yn gwybod am ei ddoniau wrth iddo groesi am gais arall.
Bydd Sean Edwards wedi ei blesio wrth i Gymru beidio ildio pwynt heb son am gais, a phan ddaeth y chwiban olaf, roedd Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth sy'n debyg o godi amheuon ym meddyliau gweddill y timau yn y gystadleuaeth.
Jonathan Davies groesodd am gais ola' Cymru - y nawfed - gyda symudiad olaf y gêm i sicrhau buddugoliaeth ysgubol.
Bydd Cymru yn chwarae Iwerddon yn Wellington yn rownd yr wyth olaf ddydd Sadwrn Hydref 8.
Straeon perthnasol
- 30 Medi 2011
- 26 Medi 2011
- 18 Medi 2011
- 11 Medi 2011