Cerbyd ar gopa'r Wyddfa: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn ar ôl i gerbyd gyriant pedair olwyn gael ei barcio ger canolfan ymwelwyr ar gopa'r Wyddfa am yr ail dro mewn mis.
Nid yw'r heddlu wedi enwi'r dyn 39 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru peryglus ac achosi difrod troseddol.
Daw hyn lai na mis ers digwyddiad tebyg pan gafodd cerbyd ei weld lathenni o'r copa.
Cafodd Craig Williams, 39 oed o Cheltenham ei gyhuddo o yrru diofal a gyrru'n anghyfreithlon ar dir comin yn dilyn y digwyddiad hwnnw ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys ddydd Iau.
'hynod o anghyfrifol'
Fe wnaeth staff Rheilffordd Yr Wyddfa gyrraedd canolfan Hafod Eryri fore Iau a sylwi ar gerbyd gyriant pedair olwyn lliw coch tywyll ger yr adeilad.
Dywedodd Alan Kendall, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Yr Wyddfa, fod hyn yn "rhywbeth hynod o anghyfrifol".
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n ceisio symud y Vauxhall Frontera ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- 29 Medi 2011
- 4 Medi 2011
- 8 Medi 2011