Stad: 'Arian yn ôl i'r gymuned'?

Llyn Efyrnwy Image copyright Other
Image caption Penderfynodd cwmni Hafren Trent roi les 125 mlynedd eu stad ar y farchnad yn gynharach eleni

Dylai cwmnïau o Loegr sy'n cael dŵr o Gymru roi arian yn ôl i'r gymuned, yn ôl y miliwnydd oedd eisiau buddsoddi yn Stad Llyn Efyrnwy.

Ers dros flwyddyn mae ansicrwydd wedi bod yn ardal Llanwddyn, Powys, ers i gwmni dŵr Hafren Trent roi les 125 mlynedd eu stad ar y farchnad.

Roedd Rhys Jones, yn wreiddiol o'r Bala ond â'i fusnes ar gyfandir Ewrop, wedi rhoi cynnig am y les er mwyn buddsoddi a chreu gwaith yn yr ardal - ac roedd yn cael cefnogaeth nifer fawr yn lleol.

Ond yn sgil y cyhoeddiad dros yr haf mai cwmni dŵr arall, United Utilities ar y cyd ag RSPB Cymru, oedd y dewis cynta, mae Mr Jones wedi dweud wrth raglen BBC Cymru Taro Naw fod angen gwneud rhywbeth i sicrhau budd i'r gymuned leol.

"Ar ddiwedd y dydd fydd y llefydd yma yn troi'n gronfa ac yn ddiffeithwch i gael dŵr i bobl o Loegr," meddai.

'Unig adnodd'

"Dydi'r cwmnïau dŵr yma ddim yn talu treth ar y dŵr o Gymru, a dyna'r unig adnodd sydd gennym ni.

"Does gennym ni ddim olew, dim nwy, does dim byd arall ac mae'n rhaid i ni fod yn dipyn mwy clyfar yn be 'dan ni'n trio neud efo hyn.

"Mae dyletswydd ar y byrddau dŵr i ddod â rhywbeth nôl i gymuned - dim ond troi'r lle yn warchodfa natur i hel dŵr."

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad yn ymchwilio i werthiant les 125 mlynedd y stad.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Garry Owen

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wrth y rhaglen mai hwn oedd yr amser i drafod hyn gan fod Llywodraeth San Steffan ar fin cyhoeddi papur gwyn ar y pwnc.

"Mae 'na hanes pwysig yma a ddylen ni ddim ei anghofio," meddai.

"Rhaid ffeindio ffordd o ddelio gyda'r sefyllfa ar gyfer yr 21ain Ganrif pan mae prinder dŵr, galw am ddŵr, gwerth dŵr, yn rhywbeth sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac mae'n rhaid ei drin yn gynaliadwy.

"Rhaid i ni edrych ar yr adnodd yna fel adnodd cenedlaethol ond i'w ddefnyddio yn gynaliadwy ac i'w rannu a'i rannu am bris teg."

Oherwydd termau cyfrinachedd y gwerthiant, nid yw'r rhai oedd yn rhan o'r broses yn cael trafod manylion y cynlluniau o gwbl am gyfnod.

Ond dywedodd cwmni United Utilities eu bod yn frwd o blaid gwarchod natur, hyrwyddo bioamrywiaeth a hybu'r cyhoedd i ymweld â'r tir maen nhw'n berchen arno yn Lloegr, gan obeithio gwneud yr un peth yn Efyrnwy.

Dywedodd cwmni dŵr Hafren Trent eu bod wedi treulio cyfnod hir yn ceisio sicrhau bod y stad yn mynd i'r rhai sy'n fwyaf tebygol o wella'r stad er lles y gymuned, yr amgylchedd a datblygiad hir dymor i'r dyfodol.

Taro Naw, 9.30pm nos Lun ar S4C

Straeon perthnasol