Abertawe 2-0 Stoke
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe wedi sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn yr Uwchgynghrair gan lwyddo i godi i'r degfed safle.
Llwyddodd y tîm cartref i sgorio ar ôl wyth munud yn Stadiwm Liberty wrth i Scott Sinclair rwydo gyda chic gosb wedi i Ryan Shawcross droseddu yn erbyn Wayne Routledge yn y cwrt cosbi.
Yn fuan wedi hynny cafodd Sinclair gyfle euraid i ddyblu'r fantais ond cafodd ei ergyd ei flocio gan gyn amddiffynnwr Lloegr a Real Madrid, Jonathan Woodgate.
Bu rhaid i Stoke aros tan yr 20fed munud cyn cael eu cyfle cyntaf i sgorio pan arbediodd gôl geidwad Abertawe, Michel Vorm ergyd gan Jonathan Walters o 20 llath.
Cafodd Angel Rangel gyfle da i sgorio i'r Elyrch 15 munud yn ddiweddarach o gic gornel gan Mark Gower, ond fe lwyddodd y Sbaenwr i benio'r bêl dros y bar.
Parhau i bwyso gwnaeth yr Elyrch yn ystod yr ail hanner a sgorion nhw eu hail gôl pan rwydodd Danny Graham gydag ergyd o 18 llath i selio'r fuddugoliaeth.
Bellach mae'r Elyrch wedi codi i'r 10fed safle yn yr Uwchgynghrair.
Bydd gêm nesaf Abertawe yn Carrow Road yn erbyn Norwich ar Ddydd Sadwrn Hydref 15.
Abertawe 2 Stoke 0
Abertawe: Sinclair 8, Graham 85.
Abertawe
Vorm, Williams, Taylor, Monk, Rangel, Sinclair, Dyer, Routledge (Moore 66), Allen,Gower,Graham (Lita 90+1).
Eilyddion
Tremmel,Bessone,Richards, Lucas,Dobbie, Lita, Moore.
Stoke
Begovic, Shawcross, Wilkinson, Woodgate, Whelan, Wilson (Huth 33), Pennant (Shotton 80), Whitehead, Delap (Jerome 54), Walters, Crouch.
Eilyddion
Sorenson, Huth, Upson, Shotton, Arismendi, Sidibe, Jerome.
Straeon perthnasol
- 17 Medi 2011