Davies yn gyfareddol

  • Cyhoeddwyd

Roedd perfformiad Aberafan yn gyfareddol wrth i'r maswr Jamie Davies gicio pedair cic gosb oddi cartre yn erbyn Casnewydd.

Davies oedd seren y gêm wrth iddo reoli'r chwarae.

Mae'r Dewiniaid, sy yn yr ail safle, wedi trechu Abertawe a Phontypridd hefyd yn ddiweddar.

Yn goron ar y cyfan, fe lwyddodd Davies ddydd Sadwrn i drosi o'r ystlys.

Canlyniadau gemau Uwchgynghrair Rygbi Cymru ddydd Sadwrn, Hydref 8:

Bedwas 33-26 Quins Caerfyrddin

Pen-y-bont 20-26 Caerdydd

Llanymddyfri 10-24 Pontypridd

Castell-nedd 45-11 Pontypŵl

Casnewydd 3-19 Aberafan

Abertawe 27-10 Cross Keys

Tonmawr 22-40 Llanelli