Hofrennydd yn achub dyn o afon

  • Cyhoeddwyd

Mae canŵydd wedi ei gludo i'r ysbyty gan hofrennydd ar ôl iddo fynd i drafferthion ar afon yng Nghonwy.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y canŵydd wedi ei godi o raeadr ar yr afon Llugwy ym Mhont Cyfyng ger Capel Curig ac wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Y gred yw bod y canŵydd mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a thîm Achub Dyffryn Ogwen eu galw i gynorthwyo'r heddlu ddydd Sul.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol