Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn 69 oed o Sir Fynwy wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ger Y Fenni ddydd Sul.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Lanelen ger Y Fenni tua 1.34pm.

Roedd car arian Peugeot 206 wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda beic modur Honda glas.

Roedd y dyn a fu farw yn gyrru'r beic modur.

Cyhoeddwyd ei fod o wedi marw yn y fan a'r lle.

Aed â'r bobl oedd yn y car, dynes 47 oed a merch 7 oed i Ysbyty Nevill Hall gyda mân anafiadau.

Mae'r ddwy yn dod o ardal Crughywel ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Bu'r ffordd ar gau am rai oriau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y ddamwain ac mae'r heddlu yn cynnig cymorth iddyn nhw.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd.

Fe ddylai unrhyw un gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101 neu 01633 838 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol