Cameron ddim am weld cweryla mewnol

  • Cyhoeddwyd
David CameronFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
David Cameron: Angen osgoi cecru mewnol

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi rhybuddio ei blaid yng Nghymru i osgoi cecru mewnol wrth i nifer yr etholaethau ostwng.

Bydd nifer y seddi yn gostwng o 40 i 30 yn 2015.

Dywedodd nad oedd am glywed am "anghytuno" wrth i rai Aelodau Seneddol wynebu'r posibilrwydd o orfod ymgeisio am sedd newydd.

Roedd Mr Cameron yn siarad yn ystod cyfarfod o aelodau Cymreig y Ceidwadwyr yng nghynhadledd flynyddol y blaid ym Manceinion.

Yn ôl y Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan bydd newid ffiniau etholaethau yn sicrhau y bydd nifer yr etholwyr yn debyg ym mhob sedd.

Nos Sul wrth i'r aelodau Cymreig gwrdd dywedodd Mr Cameron nad oedd o eisiau clywed am "anghytuno mewnol" rhwng Aelodau Seneddol ynglŷn ag etholaethau.

Credir y bydd y newidiadau yn ffiniau yn cael mwy o effaith ar y Blaid Lafur.

Grymoedd

Yn hytrach roedd Mr Cameron am weld ffraeo ymhlith aelodau Llafur.

Dydd Sul bu arweinydd y Ceidwadwr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, yn annerch y cynadleddwyr.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi "rhedeg allan o stêm" a'i fod yn brin o syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio grymoedd deddfu newydd y Cynulliad.

Yn ôl Mr Davies roedd yr arian sy'n cael ei wario ar bolisi presgripsiwn di-dâl yn golygu nad oedd yna ddigon o arian ar gael ar gyfer rhai cyffuriau canser.

Dywedodd fod yna 24 o gyffuriau o'r fath ar gael yn Lloegr ond nid yng Nghymru.

Dydd Sul hefyd bu Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn annerch cynadleddwyr.

Rhestrau aros

Dywedodd Mrs Gillan fod y Llywodraeth yn San Steffan yn cymryd camau i adfer yr economi.

Fe wnaeth hi hefyd ymosod ar bolisi iechyd Llywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd fod polisïau Llafur wedi arwain at restrau aros hirach yn y Gwasanaeth Iechyd.

Ychwanegodd fod pobl sy'n cyhuddo ei phlaid o fod yn ddi-hid am Gymru yn "gwbl anghywir."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol