Fferm wynt yn achosi pryder i drigolion
- Cyhoeddwyd

Bydd trigolion pentref Cwmgors yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod eu pryderon ynglŷn â fferm wynt sy'n cael ei chodi mewn sir gyfagos.
Mae nifer o bentrefwyr yn cwyno y bydd yna gynnydd mewn traffig wrth i'r fferm wynt gael ei chodi ar Fynydd y Betws yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y safle yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 23,000 o dai.
Dywed Cambrian Renewable Energy eu bod wedi cydweithio yn llwyr gyda'r awdurdodau er mwyn cyfyngu i'r eithaf ar unrhyw broblemau traffig.
Mae'r 15 o dyrbinau i'w gweld uwchben pentref Cwmgors.
Yn 2007 penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin roi caniatâd cynllunio i'r cynllun.
Roedd hynny ar yr amod y byddai yna ymchwiliad yn cael ei gynnal oherwydd bod nifer o bobl leol yn gwrthwynebu.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio terfynol gan arolygydd cynllunio yn 2009.
Mae'n rhaid i drafnidiaeth sy'n mynd i'r safle deithio drwy Gastell-nedd Port Talbot ar hyd y A474 o Bontardawe.
Dywed y gwrthwynebwr nad yw'r ffordd yn addas ar gyfer y datblygiad.
Bydd cerbydau yn cyrraedd Mynydd y Betws drwy ddefnyddio hen lon fferm oddi ar y A474 ar gyrion Cwmgors.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i wella'r ffordd gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot.
Cyflwr gwael
Dywed rhai o drigolion Cwmgors eu bod yn poeni am ddiogelwch pobl sy'n byw ar hyd y ffordd.
"Mae'r ffordd mewn cyflwr gwael ofnadwy," meddai Dai Davies o Gwmgors.
"Mae pobl i gyd yn erbyn e, ma' nhw yn erbyn y melinau gwynt ond be sy'n becso nhw mwya yw'r hewl a'r traffig sy'n mynd i fod yn dod ar yr hewl o Bontardawe ac o Rydaman."
"Ma' loriau yn gwneud digon o ddifrod yn dod o'r gwaith glo brig, mae 'na loriau o domen sbwriel yn dod ffordd hyn....so'r ardal hyn yn gallu cymryd yr holl draffig hyn.
"Y ni sy'n cael yr annibendod, rhywun arall sy'n cael y siwgr."
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot cafodd asesiad traffig ei gynnal o ddefnydd y ffordd "ar ôl ac yn ystod" adeiladu'r fferm wynt.
Dywedodd fod yr asesiad wedi dod i'r casgliad na fyddai'r datblygiad yn peryglu diogelwch ar y ffyrdd.
Mae disgwyl i'r gwaith o godi'r fferm wynt ddechrau'r flwyddyn nesa.
Dywed Cambrian Renewable Energy eu bod yn gobeithio cwblhau'r gwaith o godi'r fferm wynt erbyn Ebrill 2013.
"Mae diogelwch yn flaenoriaeth a byddwn yn sicrhau fod y broses yn aflonyddu cyn lleied a phosib ar y gymuned leol.
"Bydd systemau rheoli traffig mewn grym i'r perwyl hwn."
Yn ôl y cwmni mae'n yn amcangyfrif y bydd cynnydd dros dro o 2.5% o draffig sy'n defnyddio'r A474.
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Cwmgors am 7pm nos Lun.
Straeon perthnasol
- 8 Gorffennaf 2011
- 22 Chwefror 2011
- 6 Awst 2010
- 28 Awst 2004
- 13 Mai 2005