'Newid trywydd Cwpan Y Byd 2011'

  • Cyhoeddwyd
Dan CarterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dan Carter wedi ei anafu a fydd o ddim yn chwarae dros ei wlad yng ngweddill y bencampwriaeth

Ro'n i hanner ffordd ar draws yr Iwerydd pan fflachiodd y neges ar sgrin fach y Boeing 777. 'Dan Carter i fethu gweddill Cwpan y Byd'.

Chwe awr ynghynt ro'n i'n darllen erthygl ar sut y byddai maswr gorau'r byd a 'pin-up' Seland Newydd yn siŵr o gipio Tlws Webb Ellis dros ei wlad.

Ar yr un pryd, roedd eu Prif Hyfforddwr, Graham Henry, yn serennu fel peilot ar ffilm ddiogelwch yr awyren a Capten McCaw wrth ei ochr yn y cockpit yn dangos y ffordd.

Ond dyma newyddion allai newid trywydd cystadleuaeth y Crysau Duon yn llwyr.

Mae'r ffaith bod manylion yr anaf wedi'n cyrraedd ni 30,000 o filltiroedd yn yr awyr yn brawf o bwysigrwydd Carter i'r ffefrynnau.

Dyw tîm gorau'r chwarter canrif ddiwetha' heb ennill Cwpan y Byd ers y fuddugoliaeth ar dir cartre' ym 1987.

Mae amheuon unwaith eto'n cronni.

Pwy yw'r 'lleill'?

'Gall y Crysau Duon lwyddo heb Dan?' oedd cwestiwn plaen y NZ Herald dydd Llun, ac yn ôl y cyn-fewnwr Justin Marshall mae'r anaf wedi troi ffefrynnau clir yn dîm sydd cystal ond yn ddim gwell na rhai o'r lleill.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Nid yw Shaun Edwards yn barod i fynd adre.

Ydy Cymru ymhlith y 'lleill'?

Wel does dim amheuaeth bod pobl yn dechrau cymryd ymgyrch Gatland a'i griw o ddifri.

Ac mae digon o reswm am wneud - dim ond Seland Newydd gynilodd fwy o bwyntiau yn ystod y gemau grŵp, a De Affrica'n unig a ildiodd lai.

Cymru ac Iwerddon yw'r ddau dîm sy'n amlwg yn gwella wrth i'r gystadleuaeth fynd yn ei blaen, ac am y tro cynta' ers amser mae'n debyg y bydd gan brif hyfforddwr y cochion ddewis o 30 chwaraewr holliach i wynebu'r Gwyddelod nos Sadwrn.

Hyder

Mae yna hyder anarferol a phenderfyniad amlwg ymhlith carfan Cymru.

Pan mae Shaun Edwards yn edrych i fyw eich llygaid (fel y gwnaeth i mi mewn cynhadledd newyddion heddiw) gan ddweud nad yw e'n barod i fynd adre eto, mae'n anodd credu mai i Heathrow yn hytrach nac Auckland fydd Cymru'n hedfan ymhen wythnos.

Ac mi fydd hi'n dipyn o wythnos wrth i'r Awstraliaid, y Springboks, y Gwyddelod a Chymry di-ri ymgasglu a chymysgu yn Wellington ar gyfer y chwarteri.

Gall perchennog unig dŷ tafarn Cymreig honedig yr holl hemisffer edrych 'mlaen at ymddeoliad cynnar, tra bod un o eglwysi'r brifddinas hefyd yn mynd i hwyl pethau.

Ar boster mawr y tu fas mae'r geiriau 'Car dy gymydog...cefnoga'r Aussies!'

Mae gweddi neu ddwy am wellhad gwyrthiol i goes Dan Carter yn llawer mwy tebygol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol