Symud cerbyd o gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae cerbyd gyriant pedair olwyn wedi cael ei symud o gopa'r Wyddfa - a hynny am yr eildro.
Cafodd y cerbyd ei barcio ger Hafod Eyri ddydd Iau.
Staff Rheilffordd Yr Wyddfa gyda chymorth yr heddlu ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri symudodd y car o'r mynydd.
Mae'r awdurdod parc wedi cymryd meddiant o'r cerbyd.
Ym mis Medi cafodd Craig Williams, 39 oed o Cheltenham, ei gyhuddo o yrru'n beryglus wedi i gerbyd gyriant pedair olwyn gael ei adael ar gopa'r Wyddfa.
Bydd gerbron Ynadon Caernarfon ddydd Iau.
Dyw'r heddlu ddim wedi cyhoeddi enw'r dyn 39 oed gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo gael ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o yrru'n beryglus.
Ar ôl i'r car gael ei ganfod ddydd Iau dywedodd Alan Kendall, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Yr Wyddfa, nad oedd modd ei symud yn syth.
"Er mwyn symud y car yn gynt, bydd rhaid atal trenau ac amharu ar gynlluniau ymwelwyr.
'Anghyfrifol'
"Fyddwn ni ddim yn gwneud hynny."
Mae swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri wedi beirniadu'r gyrrwr wedii'r digwyddiad diweddara.
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips: "Mae'r ymddygiad anghyfrifol hwn yn gwbl annerbyniol ac rwy'n annog yr heddlu i erlyn y troseddwr a hefyd i gymryd y cerbyd a'i ddinistrio."
Dywedodd yr awdurdod eu bod yn siomedig iawn oherwydd "gweithred anghyfrifol sydd unwaith eto wedi achosi perygl diangen a risg i ddefnyddwyr y mynydd, y tirlun a Hafod Eryri ei hun."
Straeon perthnasol
- 2 Hydref 2011
- 29 Medi 2011
- 4 Medi 2011
- 8 Medi 2011