Mab wedi ei crogi yn yr un goedwig lle bu farw ei dad

  • Cyhoeddwyd
Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jack Williams yn 16 oed

Mae cwest wedi clywed bod bachgen yn ei arddegau wedi marw o ganlyniad i grogi yn yr un goedwig lle bu farw ei dad.

Cafwyd hyd i Jack Williams, 16 oed, wedi ei grogi ar goeden yng Nghoed Brynglas, Casnewydd, union wythnos yn ôl.

Roedd ei dad, Darren, wedi lladd ei hun yn yr un goedwig wedi iddo saethu ei wraig a mam Jack mewn siop trin gwallt yn y ddinas.

Y gred yw nad oedd Jack yn gallu ymdopi gyda'r hyn oedd wedi digwydd.

Mewn gwrandawiad byr yng Nghasnewydd ddydd Llun fe gafwyd cadarnhad bod Jack wedi marw o ganlyniad i grogi.

Fe gafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Pen-glin

Ym mis Awst fe aeth y tad Darren Williams, 45 oed, i mewn i siop Carol Ann's a saethu ei wraig Rachel.

Cafodd ei hanafu yn ei phen-glin.

Cafodd dwy wraig oedrannus oedd yn gwsmeriaid yn y siop eu hanafu hefyd.

Wedyn bu plismyn yn chwilio am Mr Williams cyn iddo gael ei ganfod yn y goedwig yn ddiweddarach.

Casgliad archwiliad post mortem oedd ei fod wedi marw oherwydd pwysau ar ei wddf.

Mae Mrs Williams, 39 oed, wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty ers wythnos ar ôl cael llawdriniaeth 10 awr i achub ei choes.

Dydi'r heddlu ddim yn trin marwolaeth Jack fel un amheus.

Cafodd y cwest ei ohirio ac mae corff y bachgen wedi ei ryddhau ar gyfer ei angladd.