Cyhoeddi enw llanc 17 oed a fu farw

  • Cyhoeddwyd
Scott ScanlanFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Dim ond Scott Scanlan oedd yn y car

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gyhoeddi enw'r llanc 17 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad dros y penwythnos.

Roedd Scott Scanlan yn byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth a thystion wedi'r ddamwain ar Heol Simonston ym Mracla tua 5.45pm ddydd Sadwrn Hydref 1 ger amlosgfa Llangrallo.

Roedd Mr Scanlan yn gyrru car Vauxhall Corsa arian i gyfeiriad Llangrallo pan adawodd y ffordd a tharo coeden.

Dim ond y fo oedd yn y cerbyd.

Cyhoeddwyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.

Roedd Mr Scanlan yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg a newydd lwyddo wedi cwrs plymio City and Guilds o Golwg Pencoed.

Roedd newydd ddechrau gweithio yn siop Next ym mharc siopa Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwagle

"Roedd Scott yn fab, brawd, ewythr, ŵyr a nai cariadus iawn," meddai ei deulu.

"Fe fydd y golled yn creu gwagle enfawr ym mywydau pawb oedd yn ei adnabod.

"Roedd yn gymeriad mawr, hoffus, cariadus ac mae'n ymddangos fod pawb yn ei adnabod.

"Fe fydd 'na golled ar ei ôl."

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad efo unrhyw un a oedd yn dyst i'r hyn ddigwyddodd neu unrhyw un wnaeth stopio i gynnig cymorth.

Maen nhw hefyd eisiau gwybod am unrhyw un welodd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y ddamwain.

Bu'r ffordd ar gau am oddeutu pum awr wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad,

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 01656 655 555 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol