Henebion ar newydd-wedd gyda'r dechnoleg ddiweddara

  • Cyhoeddwyd
Castell CaernarfonFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Bydd llawer o luniau Cadw hefyd i’w gweld ar y wefan

Mae Cadw'n lansio gwefan newydd a'r 'app' cyntaf erioed gan Lywodraeth Cymru.

Fe fyddan nhw hefyd yn annog pobl i ddilyn eu gwaith cadwraeth a digwyddiadau drwy agor cyfrifon Twitter, Facebook a Youtube.

"Mae gwefan newydd Cadw yn chwa o awyr iach a gafodd ei chynllunio'n gyfan gwbl gan ystyried y defnyddiwr," meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth wrth lansio'r wefan ddydd Llun.

"Mae'n adlewyrchu ymrwymiad Cadw i roi gwybodaeth i hen gynulleidfaoedd a rhai newydd, a thanio eu brwdfrydedd ynglŷn â phopeth ac unrhyw beth sy'n gysylltiedig â threftadaeth ryfeddol Cymru sydd o dan ei ofal.

"Y canlyniad yw safle ffres a chyfoes, ac yn sgil cyflwyno'r sianeli cyfryngau cymdeithasol newydd a'r siop ar-lein.

"Rwy'n siŵr y daw'n adnodd ar-lein blaenllaw ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y wybodaeth ddiweddaraf am amgylchedd hanesyddol unigryw Cymru."

'App'

Nod y wefan ddwyieithog newydd yw darparu 'siop un stop rhyngweithiol' ar gyfer gwybodaeth bwrpasol am weithgareddau Cadw.

Bydd yn cynnwys cyngor ar gadwraeth, gwybodaeth am grantiau, digwyddiadau, newyddion, aelodaeth, adnoddau addysgol ac ysbrydoliaeth ar gyfer ymweld â'i safleoedd hanesyddol.

Bydd yr app newydd - sydd ar gael ar gyfer iPhone a ffonau Android - yn galluogi i ddefnyddwyr nodi'r safle Cadw agosaf ac mae 'na obaith y bydd y cyfrifon rhwydweithio cymdeithasol yn denu cynulleidfa fyd-eang i ddilyn gwaith y sefydliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol