Rhyddhau rheithgor achos llofruddiaeth llanc 17 oed
- Published
image copyrightOther
Mae aelodau rheithgor yn achos dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio llanc yn y brifddinas wedi cael eu rhyddhau.
Bu farw Aamir Siddiqi, 17 oed, o anafiadau ar ôl cael ei drywanu yn ei gartref tua 1.40pm ar Ebrill 11, 2010.
Brynhawn Llun fe dyngodd rheithgor newydd lw.
Cafodd rhieni Amir, Iqbal, 68 oed, a Parveen, 55 oed, eu hanafu yn ddifrifol yn yr ymosodiad yn ardal Y Rhath.
Mae Ben Hope, 37 oed, a Jason Richards, 36 oed, yn gwadu llofruddio Aamir ac o geisio llofruddio ei rieni.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Medi 2011
- Published
- 10 Awst 2010
- Published
- 26 Gorffennaf 2010
- Published
- 12 Ebrill 2010