Epilepsi: Elusen yn rhoi clod i ferch ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ebony DenmanFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ebony yn 13 oed pan gafodd wybod ei bod yn diodde o epilepsi

Dywed elusen fod merch ysgol wedi dangos brwdfrydedd a dycnwch anarferol wrth fynd ati i sefydlu grŵp cymorth i bobl ifanc sy'n dioddef o epilepsi.

Dim ond 13 oed oedd Ebony Denman o Benbre, Sir Gaerfyrddin pan benderfynodd sefydlu'r grŵp cymorth.

Yn ddiweddar mae hi newydd gael cadarnhad fod y grŵp wedi cael ei gydnabod fel elusen gofrestredig - sy'n caniatáu iddo godi arian ar gyfer yr achos.

Yn ôl Epilepsy Action dim ond dwy enghraifft arall sydd yna o blant ysgol yn sefydlu grwpiau cymorth - un yn Newcastle a'r llall yn Nyfnaint.

Roedd Ebony, sy'n ddisgybl yn Ysgol y Strade Llanelli, yn 13 pan gafodd wybod ei bod yn diodde' o'r cyflwr ddwy flynedd yn ôl.

"Y cyntaf i mi wybod oedd pan nes i ddeffro mewn ambiwlans, doeddwn ni ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd," meddai.

Roedd wedi cael ffit.

Yna pan gafodd ail ffit, daeth cadarnhad fod ganddi epilepsi.

Roedd Ebony a'i theulu am wybod mwy am y cyflwr.

Aeth hi a'i mam, Siân, i grŵp cymorth yn Llanelli.

"Ond roedd pawb yno yn hŷn, roeddwn ni eisiau siarad gyda phobl o'r un oed a rhannu profiadau a gofidion," meddai.

Gwybod be i'w wneud

Penderfynodd fynd ati i ffurfio grŵp i bobl ifanc.

"Mae cannoedd o bobl wedi bod yn cysylltu â ni am help neu i ofyn cwestiynau," meddai Siân Denman.

"Mae'n bwysig fod pobl eraill, ffrindiau yn gwybod beth i wneud pan mae rhywun yn cael ffit, ac mae'n bwysig hefyd i wybod beth i beidio â gwneud.

"Mae angen trio rhoi clustog o ryw fath tu ôl i'r pen, ond mae'n bwysig peidio â thrio rhwystro'r person rhag symud."

Dywedodd Ebony fod cannoedd o bobl wedi dod i holi cwestiynau pan wnaeth y grŵp gynnal stondin yng ngŵyl myfyrwyr Beach Break Live ym Mharc Gwledig Penbre yn gynharach eleni.

"Daeth un bachgen atom a holi cwestiynau, a dweud fod ganddo epilepsi ond nad oedd wedi dweud wrth lot o bobl," meddai.

"Roedd ei ffrindiau gydag e, ac yn dweud y dylai wedi dweud wrthyn nhw'n gynt."

Mae Ebony yn credu fod y grŵp cymorth yn rhoi hyder iddi hi a'i ffrindiau i son wrth eraill am y cyflwr.

"Mae yna stigma yn perthyn i'r cyflwr gyda rai pobl, ac mae'n bwysig bod pobl yn deall mwy am y cyflwr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol