Achos dynladdiad merch dair oed
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr cwmni wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ddynladdiad merch dair oed ym Mhrestatyn.
Bu farw Meg Burgess ar ôl i wal gwympo arni wrth iddi fynd am dro gyda'i mam.
Cafodd Geroge Collier, 48 oed o gwmni Parcol Developments, ei gyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Ymddangosodd gerbron ynadon Prestatyn ddydd Llun.
Bu farw'r ferch dair oed wrth iddi gerdded ar Ffordd Penrhywylfa ym mis Gorffennaf 2008.
Cafodd y wal ei chynllunio gan Mr Collier, ac yna ei chodi gan ei gwmni, Parcol Developments.
Hefyd yn y llys oedd Philip Bryn Parry, 59 oed.
Roedd o'n cynrychioli'r cwmni, sy'n wynebu cyhuddiadau o dorri rheolau Iechyd a Diogelwch.
Bydd y ddau achos yn cael eu clywed yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Bydd Mr Collier o Fae Cinmel yn ymddangos ar Hydref 14, a Mr Parry o Brestatyn ar Dachwedd 4.
Straeon perthnasol
- 8 Ebrill 2011
- 27 Gorffennaf 2008