Hosbis: 'Na i'r Loteri Iechyd'

  • Cyhoeddwyd
Tŷ HafanFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Daw 40% o incwm Tŷ Hafan o'u loteri wythnosol eu hunain

Mae hosbis Tŷ Hafan wedi annog pobl De Cymru i gefnu ar y Loteri Iechyd newydd a wedi rhybuddio y gallai amddifadu plant yn eu gofal o wasanaethau hanfodol.

Dywedodd yr hosbis, sy'n ddibynnol ar loteri eu hunain i godi arian, eu bod yn poeni y gallai eu hincwm leihau os bydd pobl yn dewis chwarae'r loteri newydd.

Cafodd y Loteri Iechyd ei lansio gan grŵp cyfryngau Northern and Shell yr wythnos ddiwethaf - grŵp sy'n berchen ar bapurau newydd yr Express a Channel 5.

Ni fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn elwa ar arian y loteri newydd ac eisoes mae cynrychiolwyr amryw elusennau wedi beirniadu'r loteri.

'Pryderus iawn'

Dywedodd David Griffiths, rheolwr loteri Tŷ Hafan: "Mae ein loteri hosbis wythnosol yn ffynhonnell hanfodol o incwm i Tŷ Hafan, a'r llynedd fe gyfrannodd 40% o'r arian yr ydym ei angen i ddarparu gwasanaethau gofal yn rhad ac am ddim i deuluoedd lleol.

"Rydym yn bryderus iawn y gallai'r Loteri Iechyd newydd ddenu llawer o'r arian yna o'r gofal hosbis lleol, y peth olaf yr ydym ei angen mewn cyfnod ariannol anodd.

"Gallai chwarae'r Loteri Iechyd swnio fel syniad da i'r rhai sydd am gefnogi achosion da ond, mewn gwirionedd, fe fydd ond yn cyfrannu 20 ceiniog ymhob punt sy'n cael ei gwario ar elusennau - y lleiafswm cyfreithiol.

"Am bob punt sy'n cael ei gwario ar loteri Tŷ Hafan, mae 55 ceiniog yn mynd at ofal hosbis yn yr ardal.

"Gan mai ond 15% o'n cyllid sy'n dod oddi wrth y llywodraeth, rydym yn dibynnu ar ein loteri a dyma pam yr ydym yn annog pobl sy'n poeni am eu hosbis leol i ddweud "Na" i'r Loteri Iechyd."

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y Loteri Iechyd newydd ei lansio yr wythnos ddiwethaf

'Elw'

Honnodd Syr Stephen Bubb o Gymdeithas Prif Weithredwyr y Sefydliadau Gwirfoddol fod perchennog Northern & Shell, Richard Desmond, yn "elwa ar draul elusennau."

Dywedodd wrth y BBC: "Mae'r Loteri Genedlaethol yn cyfrannu 28c ymhob punt ac os yw Mr Desmond yn poeni am elusennau iechyd, fe ddylai ei gyfraniad gyfateb i hynny neu fe ddylai gau'r loteri newydd i lawr.

"Rwy'n amau bod hyn yn ymwneud yn fwy â gwneud elw i'w fenter newydd na rhoi arian i elusennau iechyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol