'Dwyn swyddi' wrth ladrata meddalwedd

  • Cyhoeddwyd
CDFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ymgyrch yn honni fod copïo meddalwedd yn anghyfreithlon yn arwain yn uniongyrchol at golli swyddi

Mae ymgyrch wedi ei lansio i dynnu sylw at yr effaith mae copïo meddalwedd yn anghyfreithlon yn ei gael ar economi Cymru.

Yn Neuadd y Ddinas Caerdydd y cafodd 'Meddalwedd - Byddwch yn Gyfreithlon' ei lansio.

Fel rhan o'r ymgyrch bydd mudiad FAST (Federation Against Software Theft) yn addysgu a hyfforddi staff o'r Adran Safonau Masnach sut i adnabod enghreifftiau o ladrata meddalwedd, a'r gost y mae troseddau o'r fath yn ei achosi i economi Cymru.

Mae'r ymgyrch yn honni fod copïo meddalwedd yn anghyfreithlon yn arwain yn uniongyrchol at golli swyddi.

Creu swyddi

Dyma'r ymgyrch gynta' o'i bath yng Nghymru ac mae'n dod â nifer o siaradwyr at ei gilydd - o arbenigwyr ar hawliau eiddo deallusol fel Adobe a Symantec, i fudiad FAST a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU.

Bydd y digwyddiad ddydd Mawrth yn tanlinellu'r cysylltiad rhwng datblygu meddalwedd a chreu swyddi a'r effaith y gall lladrata meddalwedd ei gael ar economi Cymru.

Un sy'n cefnogi'r ymgyrch yw'r Aelod Seneddol dros Ganol Caerdydd, Jenny Willott.

"Mae sefydliadau fel FAST yn sicrhau fod cwsmeriaid, busnesau a'u gweithwyr yn cael eu hamddiffyn rhag y rhai sy'n torri'r gyfraith," meddai.

"Mae'r bartneriaeth hon rhwng asiantaethau gorfodaeth a Safonau Masnach yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio a chodi ymwybyddiaeth, cynnig cyngor a, lle bo angen, gorfodi'r gyfraith."

Gwefan

Mae FAST hefyd wedi lansio gwefan newydd ar gyfer cynrychiolwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr heddlu a Safonau Masnach.

Nod y safle yw galluogi'r gwahanol gyrff i rannu gwybodaeth ac ymarfer da.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni cyfreithiol DMH Stallard: "Mae lladrata meddalwedd yn cael ei ystyried yn drosedd sydd heb ddioddefwr.

"Ond y gwir amdani yw bod unrhyw beth sy'n amharu ar werthiant cyfreithlon yn mynd i gostio swyddi.

"Rydym i gefnogi unrhyw ymdrech i ddwyn achosion cyfreithiol yn erbyn y rhai hynny sy'n cyflawni troseddau eiddo deallusol.

"Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi gwybodaeth i bobl am droseddau eiddo deallusol, yn ogystal â rhoi cymorth gydag unrhyw broblemau ymchwilio neu gyfreithiol o fewn y maes."

O dan y Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae gan Safonau Masnach ddyletswydd a phwerau i erlyn unrhyw un sy'n cyflawni troseddau hawlfraint ac fe allai hyn olygu archwilio gweithleoedd os oes cwyn yn dod i'r amlwg.

Y gobaith yw y bydd ymgyrch FAST yn rhoi'r wybodaeth a'r cyngor angenrheidiol i asiantaethau i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â rheolau hawlfraint meddalwedd, sy'n cael ei ystyried mor bwysig i economi ddigidol Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol