Llechi yn cynhyrfu archeolegwyr
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y gallai darnau o lechi ddatgelu mwy o wybodaeth am hanes castell yn Sir Benfro a'r bobl oedd yn byw yno.
Cafwyd hyd i'r llechi, sydd â lluniau arnyn nhw, wrth i archeolegwyr gloddio yng Nghastell Nanhyfer ger Trefdraeth.
Hon yw'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i archeolegwyr archwilio'r safle am dair wythnos yn yr haf.
Tîm o Brifysgol Durham sy'n arwain y cloddio, gan gydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Mae'r castell yn eiddo i'r cyngor cymuned leol.
Adeilad pwysig
Dywed Dr Chris Caple, o Brifysgol Durham, eu bod wedi dod o hyd i'r llechi ger mynedfa sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed Ganrif.
Roedd sêr a darluniau eraill wedi eu naddu ar y llechi.
"Mae'r llechi yn hynod o ddiddorol," meddai.
"Dim ond mewn un safle yn y castell yr oedden nhw i'w gweld - gan awgrymu eu bod yno i gadw bwganod draw."
Dywedodd Phil Bennett, o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, eu bod yn gobeithio gallu cadw'r eitemau yn Nanhyfer, a hynny yng ngofal y cyngor cymuned.
Yn ôl Dr Caple, roedd Nanhyfer yn adeilad pwysig yn y 12fed Ganrif.
"Byddai pawb oedd yn mynd o Aberteifi i Dŷ Ddewi yn gallu gweld y castell mawreddog a'r brif fynedfa.
"Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y llechi ac mae'n siŵr y cawn fwy o wybodaeth am fywyd pobl yn y 12fed Ganrif."
Straeon perthnasol
- 14 Mehefin 2009