Dau wedi'u hanafu mewn tân ar safle Prifwyl 2011
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ddydd Llun i ddelio â thân ar y safle ble y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Dau frawd oedd yn gweithio ar Fferm Bers Isaf ar Ffordd Rhuthun gafodd losgiadau wedi i'r tân gynnau mewn ysgubor.
Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ac mae un yn dal i fod yno.
Bu'n rhaid i'r heddlu gau Ffordd Rhuthun oherwydd bod mwg yn chwythu tuag at y lôn.
Cafodd swyddogion tân eu galw i'r safle am 2:09pm ddydd Llun.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru fod y tân wedi'i gynnau'n ddamweiniol a'i fod yn ymwneud ag offer arc-weldio ar y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth fod un o'r brodyr wedi cael gadael yr ysbyty ar ôl cael mân losgiadau ond bod y llall wedi cael ei drosglwyddo i Ysbyty Whiston, Glannau Mersi, am ragor o brofion.
Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 2011 ei chynnal ar gaeau Fferm Bers Isaf ger ffordd yr A525 ym mis Awst.