Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi cyllideb ddrafft £14bn

Jane Hutt AC
Image caption Bydd Jane Hutt yn cyflwyno'r gyllideb ddrafft tua 3pm ddydd Mawrth

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i ddatgelu ei chyllideb ddrafft, mae'r gwrthbleidiau yn galw am fwy o wariant ar yr economi, addysg ac iechyd.

Y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, sy'n amlinellu cyllideb gwerth dros £14 biliwn brynhawn Mawrth, gan ddweud y bydd y pwyslais ar swyddi a thwf economaidd.

Mae disgwyl sylwadau beirniadol hefyd ar sail y gwahaniaethau rhwng Cymru a San Steffan o ran blaenoriaethau ac egwyddorion gwleidyddol dwy lywodraeth wahanol.

Gan mai dim ond hanner seddi'r Cynulliad sydd gan y Blaid Lafur, bydd angen cefnogaeth y pleidiau eraill er mwyn ennill y bleidlais.

Mae'n debygol y bydd hyn yn arwain at fisoedd o drafodaethau wrth i'r gwrthbleidiau bwyso am gyfaddawd.

Ddydd Llun cyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, y byddai £40 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru o San Steffan yn sgil penderfyniad i beidio â chynyddu lefelau Treth y Cyngor yn Lloegr.

Chwyddiant

Gweinidogion Cymreig fydd yn penderfynu sut yn union i wario'r arian ychwanegol ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw am ehangu'r polisi er mwyn cadw taliadau yn is yng Nghymru fel yn Lloegr.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi galw am amddiffyn lefelau gwariant ar iechyd, gan gyhuddo llywodraeth Carwyn Jones o doriadau gwerth £1 biliwn ar ôl ystyried effaith chwyddiant.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai'n rhaid i'r Ceidwadwyr gyflwyno toriadau difrifol i rannau eraill o'r gyllideb er mwyn gallu gwneud hynny.

"Ar ôl gweld effaith penderfyniadau'r llywodraeth, mae'r gyllideb yma'n gyfle i'r Blaid Lafur ailystyried y cynlluniau i dorri gwariant yn y Gwasanaeth Iechyd," meddai llefarydd cyllid y Ceidwadwyr, Paul Davies.

Mae Plaid Cymru am weld mwy o wariant ar ddatblygu economaidd.

Yn ôl Alun Ffred Jones, llefarydd Plaid Cymru ar fenter, mae'r llywodraeth yn euog o "hunanfodlonrwydd a diffyg gweithredu" wrth i'r sefyllfa economaidd barhau i ddirywio.

"Mae'n syndod, o gofio nad oes gan Lafur fwyafrif, na fuon nhw'n fwy cynhwysol wrth ddrafftio eu cynlluniau ar gyfer y gyllideb drwy gynnal trafodaethau gyda'r holl bleidiau eraill," ychwanegodd.

'Gwarthus'

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud na fyddan nhw'n barod i gefnogi'r gyllideb oni bai bod mwy o arian yn cael ei ryddhau ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod yn "warthus" bod llai yn cael ei wario yng Nghymru na Lloegr.

Galwodd hi hefyd am gamau i daclo diweithdra, ac annog cyflogwyr i ddarparu mwy o hyfforddiant i staff newydd.

Dywedodd y byddai'r blaid yn ystyried pob elfen o'r gyllideb, "heb unrhyw ofn neu ddiffyg parodrwydd i dderbyn syniadau call - na herio'r llywodraeth os oedd angen".

Mae disgwyl i Ms Hutt annerch Aelodau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd tua 3pm ddydd Mawrth.

Bydd yn dadlau bod y gyllideb yn hanfodol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun llywodraethol a gyhoeddwyd wythnos yn ôl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.