Cwmni ailgylchu yn creu 30 o swyddi yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd 30 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth i gwmni ailgylchu arbenigol ehangu eu gwaith yn ne ddwyrain Cymru.

Mae cwmni Celtic Recycling yng Nghasnewydd yn datgymalu ac ailgylchu offer trydanol trwm, fel newidyddion diwydiannol.

Mae dwy uned ddiwydiannol, pont bwyso a chyfleusterau peirianneg wrthi'n cael eu hadeiladu ac mae disgwyl i'r gwaith fod wedi'i gwblhau erbyn mis Chwefror 2012.

Mae'r estyniad diweddara' ar y safle wedi'i ariannu'n rhannol gyda grant gwerth £350,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Keith James, y byddai'r cyfleusterau'n rhoi'r lle a'r offer sydd ei angen ar y busnes i ehangu.

Mae'r gwaith adeiladu'n mynd rhagddo ar safle pedair acer Celtic ar Stad Ddiwydiannol Queensway Meadows yng Nghasnewydd.

Mae cwmni adeiladu Opco o Gaerdydd wedi ennill cytundeb gwerth £2 filiwn ar gyfer y datblygiad newydd.

Mae Celtic Recycling wedi tyfu'n gyflym ar ôl sefydlu ger Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'r cwmni bellach yn cyflogi 80 o staff ar ddau safle.

"Mae datblygiad y safle yng Nghasnewydd yn tanlinellu'n cynlluniau i ehangu a'n hymrwymiad i gynnig atebion creadigol ar gyfer ailgylchu a rheoli gwastraff diwydiannol," meddai Mr James.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol