Noson gyri i helpu cronfa glowyr Y Gleision

  • Cyhoeddwyd
Perchnogion bwytai yn Abertawe fu'n rhan o'r apêlFfynhonnell y llun, BBC News online
Disgrifiad o’r llun,
Llwyddodd bwytai i godi £35,000 y llynedd ar gyfer apêl daeargryn Haiti

Bydd tua 40 o fwytai cyri ar draws de orllewin Cymru yn cynnal noson i godi arian i'r apêl i helpu teuluoedd y pedwar glöwr fu farw yng Nghwm Tawe.

Bydd hanner yr enillion nos Fercher, Hydref 12, yn mynd tuag at y gronfa, a allai gyrraedd dros £300,000 yn ôl y trefnwyr.

Ym mis Chwefror 2010 fe gododd sefydliadau bwyta £35,000 ar gyfer apêl daeargryn Haiti.

"Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni wneud," meddai'r trefnydd Ali Ahmed.

Bydd bwytai cyri yn Abertawe, Llanelli, Castell-nedd, Port Talbot a Rhydaman yn rhan o'r ymgyrch.

Cafodd pedwar o lowyr eu lladd yn y digwyddiad ar Fedi 15 ym mhwll glo'r Gleision ger Pontardawe.

Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell ar ôl cael eu dal mewn dŵr oedd yn llifo i mewn i'r pwll yng Nghilybebyll.

Llwyddodd tri o ddynion eraill i ddianc.

Ymhlith noddwyr yr apêl mae Tywysog Cymru, Archesgob Cymru Dr Barry Morgan ac Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain.

'Ar ein stepen drws'

Mae Mr Ahmed, o Gaerdydd, yn helpu i gydlynu'r noson elusennol, sydd wedi'i threfnu ar y cyd rhwng cymunedau Bangladeshi a Moslemaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Ofer fu ymdrechion y timau achub i ganfod y pedwar yn fyw

"Rwy'n falch iawn i fod yn rhan o hyn," meddai Mr Ahmed. "Fe ddigwyddodd ar ein stepen drws ni."

"Ry'n ni wedi codi arian ar ôl trychinebau rhyngwladol yn y gorffennol ond mae'n hynod bwysig pan fo'n digwydd yn ein cymuned ni," ychwanegodd.

"'Da ni'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn ein cefnogi.

"Os oes rhywun yn dod i mewn, yn gwario £10 ar bryd o fwyd, yna byddan nhw'n gwybod y bydd £5 yn mynd tuag at gronfa'r glowyr."

Dywedodd Mr Ahmed ei fod yn gobeithio y byddai'r ymgyrch yn codi rhwng £5,000-£10,000, ac y byddai unrhyw arian dros ben yn mynd tuag at dalu costau.

Y gobaith yw y bydd casgliadau hefyd yn cael eu gwneud mewn sawl mosg yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.