Fferm wynt yn achosi pryder i drigolion Cwmgors

  • Cyhoeddwyd
Traffig ar yr A474 yng NghwmgorsFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Traffig ar yr A474 yng Nghwmgors

Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu fferm wynt wedi dweud eu bod yn fodlon gweithredu'n uniongyrchol i rwystro lorïau rhag cyrraedd y safle ar Fynydd y Betws.

Roedd mwy na 100 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus ym mhentre' Cwmgors yng Nghwm Tawe nos Lun.

Mae cwmni ESB o'r Iwerddon wedi cael caniatâd cynllunio i godi 15 o dyrbinau fydd yn cynhyrchu trydan ar gyfer 23,000 o gartrefi.

Dywedodd gwrthwynebwyr nad oedd ffordd yr A474 yn addas ar gyfer y datblygiad ac y byddai lorïau mawr yn achosi problemau traffig.

Maen nhw wedi honni y byddai miloedd o lorïau yn mynd â phridd o'r safle ac yn cludo concrid ar gyfer y sylfeini.

Rhwystro lorïau

Dywedodd Geoff Butt, un o'r gwrthwynebwyr, y byddai pobl yn fodlon protestio yn uniongyrchol ac yn ceisio rhwystro'r lorïau.

"Ma'r teimlade'n gryf nid jyst yn y pentref yma ond ym mhob pentref ar hyd yr A474 rhwng Rhydaman a Rhydyfro ... maen nhw'n gadel lorïau 140 tunell i fynd lan y tyle."

Er bod safle'r fferm wynt yn Sir Gaerfyrddin, mae'r ffordd yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Bydd cerbydau yn cyrraedd Mynydd y Betws drwy ddefnyddio hen lôn fferm oddi ar y A474 ar gyrion Cwmgors.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i wella'r ffordd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Awst.

Dywedodd cwmni ESB eu bod wedi cydweithio'n llwyr gyda'r awdurdodau er mwyn lleihau unrhyw broblemau traffig.

Caniatâd cynllunio

Yn 2007 penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin roi caniatâd cynllunio i'r cynllun.

Roedd hynny ar yr amod y byddai yna ymchwiliad yn cael ei gynnal oherwydd bod nifer o bobl leol yn gwrthwynebu.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio terfynol gan arolygydd cynllunio yn 2009.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Ffordd mynediad i fferm wynt Mynydd y Betws

Eisoes mae gwrthwynebwyr wedi honni nad yw'r ffordd yn addas ar gyfer y datblygiad.

"Ma'r ffordd mewn cyflwr gwael ofnadwy," meddai Dai Davies o Gwmgors.

"Ac ma' lorïe'n gwneud digon o ddifrod yn dod o'r gwaith glo brig, ma' yna lorïau o domen sbwriel yn dod ffordd hyn.

"Ma'r bobol i gyd yn 'i erbyn e, ma' nhw yn erbyn y melinau gwynt ond beth sy'n becso nhw fwya' yw'r hewl, a'r traffig sy'n mynd i fod yn dod ar yr hewl o Bontardawe ac o Rydaman.

"Y ni sy'n cael yr annibendod, rhywun arall sy'n cael y siwgr."

Asesiad

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cafodd asesiad traffig ei gynnal o ddefnydd y ffordd yn ystod ac ar ôl codi'r fferm wynt.

Dywedodd fod yr asesiad wedi dod i'r casglu na fyddai'r datblygiad yn peryglu diogelwch ar y ffyrdd.

Mae disgwyl i'r gwaith o godi'r fferm wynt ddechrau'r flwyddyn nesa'.

Dywedodd Cambrian Renewable Energy eu bod yn gobeithio cwblhau'r gwaith erbyn Ebrill 2013.

"Mae diogelwch yn flaenoriaeth a byddwn yn sicrhau fod y broses yn aflonyddu cyn lleied â phosib ar y gymuned leol.

"Bydd systemau rheoli traffig mewn grym i'r perwyl hwn."

Mae'r cwmni yn amcangyfrif y bydd cynnydd dros dro o 2.5% yn y traffig sy'n defnyddio'r A474.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol