Colli 12 o swyddi wrth i swyddfa Cyngor ar Bopeth gau
- Cyhoeddwyd

Mae 12 o bobl wedi colli eu swyddi wedi i swyddfa Cyngor ar Bopeth Caerdydd gau.
Cadarnhaodd cadeirydd y mudiad, Dominic Jenkins, fod swyddfa'r brifddinas yn fethdalwr o Hydref 31, 2011.
"O ganlyniad i hyn bydd 12 o staff yn colli eu swyddi a bydd y gwasanaeth presennol yn swyddfa Stryd y Castell yn dod i ben", meddai.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn cydweithio gyda Swyddfa Cyngor ar Bopeth ac ymddiriedolwyr y mudiad i "sicrhau bod trigolion Caerdydd yn dal i gael mynediad i wasanaethau".
Yn y cyfamser, bydd gwasanaethau Cyngor ar Bopeth Caerdydd yn cael eu rheoli gan swyddfeydd ym Mro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Chasnewydd.
'Ddim yn hyfyw'
Yn ôl Cyngor Caerdydd, dyw'r ffaith bod y swyddfa wedi mynd yn fethdalwr ddim o ganlyniad i unrhyw doriadau na newid yng nghyllid y cyngor.
"Dyw'r swyddfa ddim yn hyfyw yn ariannol oherwydd amryw o resymau, ond dyw'r cyllid gan Gyngor Caerdydd nag asiantaethau eraill ddim wedi'i dorri", meddai llefarydd.
"Mae angen swyddfa Cyngor ar Bopeth yng Nghaerdydd gan ei fod yn wasanaeth cymunedol hanfodol."
Yn ôl Mr Jenkins o Gyngor ar Bopeth, bydd "pob ymdrech" yn cael ei wneud trwy gydol mis Hydref i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal, gyda "staff a gwirfoddolwyr yn parhau i weithio'n galed i gyflawni hyn".
Dylai unrhyw un sydd angen cyngor gysylltu â'r gwasanaeth yn y modd arferol neu ffonio'r llinell gyngor ar 08444 77 20 20.