Agor a gohirio cwest i farwolaeth beiciwr

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Fe glywodd y cwest fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio wedi i yrrwr beic modur farw ar drac rasio ar Ynys Môn dros y penwythnos.

Roedd Brendan Lee Langwill yn 23 oed ac yn dod o Enfield, ger Llundain.

Yn ôl Trac Môn yn Nhŷ Croes, roedd 'na wrthdrawiad rhwng tri beic modur ddydd Sadwrn.

Bu farw Mr Langwill yn y fan a'r lle ac aed â gyrrwr arall i'r ysbyty gydag anafiadau.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni trac rasio eu bod yn meddwl am deuluoedd y rhai yn y gwrthdrawiad.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cawson nhw wybod am y ddamwain toc wedi 3.30pm ddydd Sadwrn.

"Y cyngor lleol sy'n arwain yr ymchwiliad," meddai llefarydd.

"Rydym fel heddlu yn casglu tystiolaeth ar ran y crwner ac yn cefnogi'r awdurdod."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.