Elusen yn galw am roi eli haul am ddim i rai dan 11 oed
- Cyhoeddwyd

Mae elusen canser Tenovus yn galw am roi eli haul am ddim i bob plentyn dan 11 oed yng Nghymru, mewn ymgais i geisio lleihau nifer yr achosion o ganser y croen.
Mae'r elusen wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru, gydag enwau dros 9,000 o bobl arni.
Yn ôl Dr Ian Lewis o'r elusen, mae cael llosg haul yn ystod plentyndod yn gallu dyblu'r perygl o gael canser y croen yn ddiweddarach mewn bywyd.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn annog pawb i ddiogelu eu hunain rhag yr haul.
Pob blwyddyn mae 500 o achosion o melanoma canseraidd yn cael eu darganfod yng Nghymru. O'r rhain, mae tua 100 o bobl yn marw o'r math mwya' peryglus yma o ganser y croen.
Mae nifer yr achosion yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros y 15 mlynedd diwetha'.
Codi ymwybyddiaeth
Yn ôl Tenovus, mae addysg a chodi ymwybyddiaeth yn allweddol i geisio atal cynnydd pellach yn nifer yr achosion o ganser y croen, a buon nhw'n hyrwyddo ymgyrch arbennig dros yr haf.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r elusen am i Lywodraeth Cymru roi presgripsiwn eli haul am ddim i blant dan 11 oed.
"Gall llosg haul drwg yn ystod plentyndod ddyblu'r perygl o gael canser y croen yn ddiweddarach mewn bywyd," medai Dr Lewis, sy'n gyfarwyddwr ymchwil gyda'r elusen.
"Rydym angen atal nifer yr achosion o melanoma canseraidd rhag cynyddu yn y genhedlaeth nesa'."
Dywedodd fod ysgolion yn dod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch haul a bod rhai nawr yn creu ardaloedd cysgodol ar gyfer disgyblion.
Ond cyfaddefodd ei fod wedi clywed am rai achosion pan nad oedd athrawon yn rhoi eli haul ar y plant.
Llosg haul difrifol
Daeth un achos i'r amlwg yn y wasg ym mis Gorffennaf, wedi i rieni merch 10 oed o Abertawe gwyno fod eu merch wedi cael llosg haul difrifol yn dilyn diwrnod chwaraeon yn yr ysgol.
Dywedodd Ysgol Gynradd Pennard y gallai rhieni ddod i'r ysgol amser cinio i roi eli haul, ond na fyddai'n bosib i athrawon roi eli i 200 o ddisgyblion.
Meddai Dr Lewis: "Mae 'na ffyrdd i ddelio â hynny ac fel rhan o'r addysg, dylen ni fod yn dangos i blant sut i roi eli haul eu hunain - efallai gwneud gêm o'r peth.
"Mae hefyd yn bwysig i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni a phlant ynglŷn â diogelu'u hunain rhag yr haul."
Ychwanegodd fod canser y croen yn costio tua £14 miliwn i Gymru ac y byddai rhoi eli haul ar bresgripsiwn yn gwneud synnwyr yn economaidd.
Cafodd y deiseb ei chyflwyno i gadeirydd y pwyllgor deisebau yn y cynulliad ddydd Mawrth.
Os bydd aelodau'r pwyllgor yn credu y dylid ei ystyried ymhellach, bydd yn cael ei drosglwyddo i'r pwyllgor perthnasol.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn annog pobl i ddiogelu'u hunain rhag yr haul, sy'n gallu achosi canser y croen.
"Defnyddio eli haul yw un o'r mesurau sydd angen eu tanlinellu wrth drafod sut i amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol gormod o haul."
Straeon perthnasol
- 8 Ebrill 2011
- 6 Ebrill 2011
- 1 Ebrill 2010
- 5 Mawrth 2007
- 8 Mehefin 2006