Staff yn gwrthod newid wythnos waith o fewn cyngor

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Sir, Cyngor Sir y FflintFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r aelodau wedi gwrthod newidiadau i'r wythnos waith

Mae canlyniad pleidlais yn golygu bod staff Cyngor Sir y Fflint wedi gwrthod cynlluniau i newid eu hwythnos waith.

Dywedodd yr awdurdod bod newid yr wythnos waith "yn brif flaenoriaeth" fel bod modd arbed £1.8 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Roedden nhw am leoli 300 o staff mewn adran fel bod modd iddyn nhw wneud gwaith staff oedd ar eu gwyliau ac roedd angen iddyn nhw weithio pedwar diwrnod yr wythnos - a dydd Sadwrn yn achlysurol.

Mae'r cyngor wedi dweud "eu bod yn siomedig" oherwydd canlyniad y bleidlais.

Dywedodd Unsain, undeb Unite ac Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Threfol y byddai'r trafodaethau gyda'r rheolwyr yn parhau.

Effeithlonrwydd

Roedd y cyngor wedi dweud y byddai'r newid yn gwella effeithiolrwydd, lleihau'r angen am staff asiantaeth i weithio pan oedd eraill ar eu gwyliau, a chynyddu'r cyflog sylfaenol i tua 70% o weithwyr.

Eisoes mae'r cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda'r undebau wrth anelu at gyfuno staff o fewn yr adran amgylchedd.

Mae'r gwasanaethau yn cynnwys casglu sbwriel, glanhau ffyrdd a chynnal a chadw gerddi a pharciau.

Yn ôl y cyngor, roedd angen arbed £600,000 yn yr adran yn y flwyddyn ariannol bresennol a £1.2 miliwn yn 2012-13.

Mae tua 70% o'r gweithwyr yn aelodau undeb.

Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir Y Fflint, eu bod yn ystyried opsiynau.

"Mae angen gwneud newidiadau fel mater o flaenoriaeth ... mae angen gwella gwasanaethau'r cyngor a sicrhau arbedion.

'Brys'

Rydym mewn trafodaethau brys gyda'r undebau i ail-drafod y cynlluniau er mwyn symud ymlaen."

Dywedodd bod y trefniadau newydd yn caniatáu i wasanaethau'r cyngor fod ar gael am chwe diwrnod yr wythnos a lleihau nifer cerbydau'r cyngor.

"Mae'r cynigion er mwyn diogelu swyddi rheng flaen mewn cyfnod anodd a chynnig mwy o gyfloed i staff gael eu hyfforddi a datblygu eu gyrfaoedd o fewn y cyngor," meddai'r Cynghorydd Nancy Matthews, aelod gweithredol gyda chyfrifoldeb am wastraff.

"Dwi'n hynod siomedig bod y staff wedi dewis gwrthod y cynigion."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol