Prifysgol Aberystwyth: Ymchwiliad ar y gweill
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i weithgareddau masnachol a gweithredol sy'n ymwneud â stadau'r coleg.
Fe ddaeth nifer o faterion i'r amlwg wedi i'r is-ganghellor newydd, yr Athro April McMahon, orchymyn cynnal adolygiad mewnol.
Dywedodd llefarydd: "Mae aelodau staff y Brifysgol yn cydweithio gyda'r ymchwiliadau ar hyn o bryd ac mae'n debygol y byddan nhw'n treulio llawer o'u hamser yn gwneud hyn tra bydd yr ymchwiliadau'n parhau.
"Gan fod yr ymchwiliadau yma yn mynd yn eu blaen, does dim llawer mwy y gallwn ei ddweud ar hyn o bryd."