Penderfynu dyfodol Alwminiwm Môn
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y cwmni a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am safle hen waith Alwminiwm Môn ger Caergybi, Ynys Môn, yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Daeth y gwaith o gynhyrchu alwminiwm i ben yno ddwy flynedd yn ôl gan olygu colli 400 o swyddi.
Mae BBC Cymru ar ddeall mai bwriad y cwmni fydd yn symud i'r safle yw creu parc busnes fydd yn defnyddio'r gwastraff o orsaf biomas yno.
Credir mai'r gobaith yn y tymor hir yw cyflogi rhwng 400 a 500 o weithwyr.
Yn ôl pob son bu'r broses o ddewis y cwmni buddugol yn un cystadleuol, gyda nifer o gwmnïau yn awyddus i reoli'r safle.
Fe gafodd perchnogion Alwminiwm Môn - Rio Tinto - Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn ddweud eu dweud yn y broses.
Eisoes mae llywodraeth y DU wedi rhoi caniatâd i godi gorsaf bŵer biomas ar y safle, ac fe ddeellir y bydd y cwmni fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn bwriadu defnyddio gwres a dŵr sy'n wastraff o brosesau'r orsaf yna i greu busnesau eraill ar y safle.
Y nod fydd creu cymaint, os nad mwy, o swyddi newydd ar y safle ag a gollwyd pan ddaeth y gwaith alwminiwm i ben yn 2009.
Straeon perthnasol
- 18 Mawrth 2011
- 24 Tachwedd 2010
- 30 Medi 2009
- 23 Medi 2009