Wrecsam yn ôl ar y brig

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Gateshead 1-4 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi dringo yn ôl i frig tabl Uwchgynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros y tîm oedd ar y brig, Gateshead.

Fe deithiodd Wrecsam i ogledd-ddwyrain Lloegr heb eu prif sgoriwr, Jake Speight, oedd wedi ei wahardd.

Ond roedd hyder Wrecsam yn uchel yn dilyn buddugoliaeth hyn erbyn Ebbsfleet ddydd Sadwrn, ac o fewn pedwar munud yr ymwelwyr aeth ar y blaen diolch i gôl Danny Wright.

Pas gan y rheolwr dros dro, Andy Morrell, arweiniodd at yr ergyd gan Wright i'r gornel isaf.

Digon cyfartal a difflach oedd gweddill yr hanner cyntaf, ond o fewn pedwar munud i ddechrau'r ail hanner roedd Wrecsam wedi dyblu eu mantais.

Joe Clarke oedd y sgoriwr y tro hwn gydag ergyd o 20 llath.

Cyn pen yr awr fe ddaeth trydedd gôl - croesiad i'r cwrt chwech yn cael ei droi i mewn i'w rwyd ei hun gan Ewan Moyes, ac roedd Wrecsam dair ar y blaen.

Ymateb

Fe fyddai rhywun wedi disgwyl ymateb gan y tîm oedd ar frig y tabl ar ddechrau'r noson, ac fe ddaeth o fewn dau funud.

Kris Gate darodd ergyd i gornel chwith y rhwyd i sgorio i Gateshead.

Wrecsam gafodd mwyafrif y meddiant yn y gêm - tipyn o gamp i dîm oddi cartref - ond roedd tipyn o amddiffyn i'w wneud yn hwyr yn y gêm.

Ond daeth rhyddhad o hynny pan gafodd Wrecsam gic o'r smotyn gan y dyfarnwr gyda 12 munud yn weddill - Josh Gillies yn baglu Curtis Obeng yn y cwrt cosbi.

Rhwydodd Dean Keates gyda'i gynnig o'r smotyn am bedwaredd gôl Wrecsam ac roedd y fuddugoliaeth yn sicr.

Oherwydd y gwahaniaeth goliau yn eu herbyn, fe ddisgynnodd Gateshead o'r brig i'r trydydd safle, gyda Fleetwood yn codi un safle heb chwarae hyd yn oed.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Nifer y gemau Pwyntiau
1. Wrecsam 14 29
2. Fleetwood 13 27
3. Gateshead 14 27
4. Braintree 13 25
5. Kidderminster 13 24
6. Efrog 13 23