Justin Edinburgh yn cael ei benodi'n rheolwr Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Cyn amddiffynwr Tottenham Hotspur, Justin Edinburgh, sydd wedi cael ei benodi'n rheolwr ar glwb Casnewydd.
Edinburgh oedd rheolwr Rushden & Diamonds y tymor diwethaf pan gafodd y clwb eu diarddel o'r Gyngres am "drafferthion ariannol".
Ef yw chweched rheolwr Casnewydd mewn naw mlynedd ac mae'n olynu Anthony Hudson a adawodd y clwb ym mis Medi yn dilyn 10 gêm heb fuddugoliaeth.
Gadawodd Hudson gyda Chasnewydd yn y tri gwaelod yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.
Mae Edinburgh, a fu hefyd yn rheolwr ar Billericay Town, Fisher Athletic a Grays Town, wedi arwyddo cytundeb tan ddiwedd tymor 2012-13.
Ei gêm gyntaf fel rheolwr fydd yn erbyn Southport ddydd Sadwrn.
Dywedodd cadeirydd Casnewydd, Chris Blight: "Roedd y Bwrdd yn teimlo ei bod hi'n bwysig gweithredu'n fuan wedi ymadawiad Anthony Hudson, ac rydym yn teimlo mai Justin yw'r ymgeisydd perffaith.
"Mae'n bennod newydd i'r clwb, ac rydym yn gobeithio y bydd y ffyddloniaid yn cefnogi Justin ddydd Sadwrn ac edrych ymlaen at ddyfodol disglair gyda'n gilydd."
Straeon perthnasol
- 28 Medi 2011