Heddlu Gwent yn chwilio am dreisiwr

Edwin Smith Image copyright Other
Image caption Cafydd Edwin Smith yn euog o droseddau rhwng 1985 a 2006 medd yr heddlu

Mae Heddlu Gwent wedi gofyn am gymorth i ddod o hyd i dreisiwr.

Dywed yr heddlu fod Edwin Smith o ardal Bargoed yng Nghaerffili ddim wedi ymddangos yn y llys yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Yn ei absenoldeb fe'i cafwyd yn euog o 13 o droseddau gan gynnwys treisio, ymosodiad rhyw difrifol ac ymosod corfforol.

Cafodd y cyhoedd eu rhybuddio i beidio mynd ato, ond i ffonio'r heddlu ar 01633 838111 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Mae euogfarnau Smith yn ymwneud â throseddau ddigwyddodd rhwng 1985 a 2006, medd yr heddlu.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua 5'10" o daldra ac o gorff cymhedrol. Mae ganddo wallt melyn at ei ysgwyddau ac wedi ei glymu mewn cynffon.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.