Gwynt y Môr: 100 o swyddi i Gymru

Fferrm wynt oddi ar arfordir Thanet, Swydd Caint Image copyright PA
Image caption Bydd y fferm wynt ger arfordir Llandudno yn cynhyrchu 576 MW o drydan

Bydd 100 o swyddi yn cael eu creu am fod porthladd wedi ei ddewis i gynnal a chadw fferm wynt oddi ar arfordir Llandudno.

Dywedodd datblygwyr y cynllun, RWE npower renewables, fod porthladd Mostyn wedi ennill cytundeb gwerth £50m i gynnal a chadw fferm wynt Gwynt-y-Môr am 25 mlynedd.

Y ffferm wynt fydd un o'r mwyaf o'i fath yn y byd, gyda hyd at 160 o dyrbeini gwynt yn cael eu gosod 13 chilometr oddi ar yr arfordir.

Bydd y fferm wynt yn cynhyrchu 576 MW o drydan, digon o ynni i gyflenwi 400,000 o dai.

'Croesawu'

Dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth y DG, Charles Hendry: "Bydd creu dros 100 o swyddi peirianneg yn ddatblygiad i'w groesawu yn y sector hon ac yn dangos nad y porthladdoedd mwyaf yn unig sy'n elwa ar y swyddi a'r hwb i'r economi yn sgil cynhyrchu ynni gwynt ar y môr."

Dywedodd Cyfarwyddwr prosiect Gwynt-y-Môr ar ran RWE npower, Toby Edmonds: "Rydyn ni'n hapus iawn yn sicrhau mai porthladd Mostyn fydd ein cartref ni am y 25 mlynedd nesa."

Bydd y cwmni yn adeiladu glanfa a chanolfan gweithrediadau a chynnal a chadw ar gyfer cynllun Gwynt-y-Môr.

Dywedodd rheolwr cyfarwyddwr porthladd Mostyn, Jim O'Toole: "Mae cynllun Gwynt-y-Môr yn gyfle i gryfhau ein perthynas â RWE nPower a bydd y cynllun yn cynyddu cyfleoedd gwaith a busnes i borthladd Mostyn a Gogledd Cymru."

Penderfynodd Llywodraeth Prydain ym mis Rhagfyr 2008 y byddai cynllun Gwynt-y-Môr yn mynd yn ei flaen.

Yn 2010 enillodd cwmni Prysmian Cables and Systems o Wrecsam gytundeb gwerth £15m i gynhyrchu a gosod ceblau ar hyd yr 11.2 gilomedr o'r traeth i'r cysylltiad â'r Grid Cenedlaethol.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd RWE npower mai Cammell Laird oedd wedi ennill y cytundeb gwerth £5m i helpu adeiladu Gwynt-y-Môr dros y tair blynedd nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.