Taith trwy’r iâ i wyddonydd o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dr PieńkowskiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Dr Anna Pieńkowski fydd un o'r cyntaf i gael astudio'r fioleg forol yn y rhan anghysbell yma o'r byd

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor ar daith i un o rannau mwyaf anghysbell y byd, lle nad oes llawer o wyddonwyr wedi bod o'r blaen.

Oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd, mae Dr Anna Pieńkowski a gwyddonwyr eraill â'r cyfle i deithio trwy lwybr morol y Gogledd-Orllewin yng Nghanada gan fod rhwystr iâ'r Arctig wedi lleihau.

Dr Pieńkowski, arbenigwr ar ddaeareg forol yn ysgol Gwyddoniaeth y Môr ym Mangor, yw'r unig wyddonydd Prydeinig i fachu lle ar y llong gwylwyr y glannau o Ganada, eu prif long torri iâ.

Bydd llong yr Amundsen yn torri llwybr rhwng cefnforoedd yr Iwerydd a'r Tawel, yn rhoi'r cyfle i hel gwybodaeth am yr amgylchiadau corfforol, daearegol a biolegol ar hyd y llwybr.

Nid yw arbenigwyr yn gwybod llawer am amgylchedd morol y llwybr y Gogledd-Orllewin gan fod y siwrne yma fel arfer yn un anodd iawn i'w chwblhau, gyda nifer o longwyr wedi marw ar ei hyd dros y canrifoedd.

"Dwi eisiau creu dealltwriaeth well o'r newidiadau amgylcheddol hirdymor yn yr Arctig yng Nghanada," meddai Dr Pieńkowski, sy'n arbenigo mewn astudio micro-organebau ffosilaidd sydd wedi eu diogelu o fewn gwaddod morol.

"Rydym yn gobeithio gweld a oedd y sianeli wedi eu llenwi gyda rhewlifau trwchus, neu efo silffoedd o iâ sy'n arnofio (fel yn yr Antarctig) yn ystod Oes yr Iâ, a pha newidiadau amgylcheddol sydd wedi digwydd ers hynny (rhyw 12,000 o flynyddoedd yn ôl).

"Mae'r record hirdymor yma o'r hinsawdd yn bwysig os ydym am roi newidiadau hinsawdd fodern mewn persbectif, a galluogi i wyddonwyr calibro eu modelau yn gywir er mwyn rhagfynegi newid hinsawdd yn y dyfodol."

Amgylchiadau anodd

Mae gan lwybr y Gogledd-Orllewin y posibilrwydd o ddod yn fan cyswllt morol pwysig rhwng Asia ac Ewrop os yw iâ'r môr yn parhau i leihau, fel mae rhai modelau hinsawdd yn rhagolygu.

Gall hefyd fod yn adnodd pwysig o ran olew a nwy naturiol.

Ond nifer fechan o longau sydd wedi llwyddo i hwylio'r llwybr yma dros y blynyddoedd oherwydd yr amgylchiadau anodd.

Dr Anna Pieńkowski fydd un o'r cyntaf, felly, i gael cyfle i astudio'r fioleg forol yn y rhan anghysbell yma o'r byd.

"Mae'r trip yn mynd yn dda ar hyn o bryd. Mae'r tywydd wedi bod yn eithaf mwyn, gyda'r tymheredd uwch ben 0°C yn ystod y dydd. Ond mae'n bosib y cawn ni dywydd drwg a moroedd garw pan gyrhaeddwn Swnt Viscount Melville," meddai.

Bydd Dr Pieńkowski yn dychwelyd i Brydain ar Hydref 31.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol