Gwasanaeth bws yn ehangu
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gwasanaeth bws sy'n boblogaidd ymhlith cerddwyr, syrffwyr ac ymwelwyr ar arfordir Ceredigion yn ehangu.
Mae gwasanaeth Y Cardi Bach yn cysylltu trefi, pentrefi a thraethau rhwng Aberteifi a Chei Newydd.
Fe gafodd ei lansio am y tro cyntaf yn 2004 cyn dod i ben yn 2006 oherwydd trafferthion ariannol.
Ond fe gafodd ei gyflwyno bob haf ers hynny.
Pedair gwaith
Roedd y cynllun yn para am bum mis y flwyddyn yn lle tri eleni.
Ond o 2012 ymlaen fe fydd y gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn.
Fe fydd y bws yn teithio rhwng Aberteifi a Chei Newydd bedair gwaith y dydd bob dydd heblaw dydd Mercher yn yr haf a thair gwaith yr wythnos yn y gaeaf.
Cafodd cais i ehangu'r gwasanaeth ei gymeradwyo o dan y Cynllun Datblygu Gwledig ac fe fydd arian cyfatebol yn cael ei gyfrannu gan Trac a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Bydd y pecyn cyllido newydd yn golygu y gall y Cardi Bach weithredu ar sail fwy cadarn a chynaliadwy 12 mis y flwyddyn."
Eisoes mae'r cyngor wedi dweud bod y gwasanaeth yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n cerdded y llwybr arfordirol gafodd ei agor yn 2008.
Yn ôl arolwg y cyngor, roedd 66,000, 19% yn fwy, yn cerdded y llwybr rhwng Awst 2009 ac Awst 2010.
Straeon perthnasol
- 15 Mehefin 2007
- 13 Hydref 2006
- 5 Gorffennaf 2004