Ymchwiliad i ddyfodol canol trefi
- Cyhoeddwyd

Bydd rhaid i ganol trefi elwa ar economi'r oriau nos i sicrhau eu dyfodol, yn ôl grŵp arbennig.
Cymdeithas Rheoli Canol Trefi sy'n rhoi tystiolaeth gerbron ymchwiliad y Cynulliad sy'n ystyried sut i adfer canol trefi yng Nghymru.
Y Pwyllgor Menter a Busnes sy'n clywed tystiolaeth arweinwyr busnes.
Mae'r pwyllgor am wybod a yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl adnoddau ar gael iddi i hybu prosiectau adfywio a sut mae'n cydgysylltu buddiannau cymunedau, busnesau ac awdurdodau lleol.
12 canol tref
Mae gan y pwyllgor ddiddordeb yn y dulliau a ddefnyddiwyd i gyllido a chyflawni prosiectau i adfywio canol trefi yng Nghymru.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried effaith canolfannau manwerthu ar gyrion trefi ar ganol trefi cyfagos ac i ba raddau y gallai mentrau i adfywio canol trefi gynnig cyfleoedd gwaith gwell i drigolion lleol.
Martin Blackwell, prif weithredwr y mudiad, sy'n rhoi tystiolaeth ar ran 12 canol tref, gan gynnwys Aberystwyth, Caerffili, Caerdydd, Bae Colwyn, Merthyr Tudful, Castell-nedd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.
Dywedodd fod heolydd mawr "yn arfer bod yn ddibynnol ar siopau ond yn awr maen nhw'n fwy dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus, twristiaeth, y celfyddydau a diwylliant.
"Bellach nid yw'r oriau brig rhwng 9 a 5 am fod trefi yn llefydd ar agor ddydd a nos," meddai.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae safleoedd adwerthu y tu allan i'r dref yn boblogaidd gyda'r cyhoedd am eu bod nhw'n cynnig ystod eang o nwyddau a mannau cyfleus i barcio.
"Mae wedi bod yn anodd i awdurdodau lleol wrthsefyll y pwysau i ddatblygu safleoedd y tu allan i'r dref er bod polisi'r llywodraeth wedi ceisio gwarchod canol trefi."
Siopau gwag
Mae Cyngor Casnewydd yn honni bod llai o bobl yn siopa yn y ddinas honno yn sgil datblygiadau siopa y tu allan i'r dref.
Ac mae Cyngor Wrecsam wedi galw am grŵp holl bleidiol seneddol gael ei ffurfio i gydweithio â rheolwyr canol trefi, yr CRCT a Chymdeithas Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad.
Bydd Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru hefyd yn rhoi tystiolaeth ac maen nhw eisiau "gwell ardrethi busnes" a "gwell deddfau cynllunio" a chymhelliannau fel parcio rhad ac am ddim i helpu eu 10,000 o aelodau ac i "achub canol trefi" rhag y posibilrwydd o siopau gwag.
Straeon perthnasol
- 23 Gorffennaf 2011