'Creu hyd at 400 o swyddi'

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa Alwminiwm MônFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Daeth y gwaith cynhyrchu yn Alwminiwm Môn i ben yn 2009

Cyhoeddwyd mai cwmni Lateral Power sydd yn cael eu ffafrio ar gyfer safle hen waith Alwminiwm Môn ger Caergybi, Ynys Môn.

Mae'r cwmni wedi dweud mai'r gobaith yw creu hyd at 400 o swyddi yn ystod y cyfnod cyntaf.

Dywedodd yr AC lleol fod 400 o swyddi newydd yn "newyddion ardderchog".

Bwriad y cwmni yw creu parc fydd yn cynnwys gorsaf biomas a defnyddio'r gwastraff o'r orsaf ar gyfer cynlluniau eraill.

Yna bydd y dŵr yn cael ei ailgylchu a'i gyfuno gyda carbon deuocsid i "fwydo" tai gwydr.

Dywedodd yr AC, Ieuan Wyn Jones: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn dod ar amser da.

"Rydym yn agos iawn at ddirwasgiad arall a dim ond wrth fuddsoddi mewn swyddi y gallwn ni osgoi un arall.

"Mae nifer o bobl wedi gweithio'n galed i ddod â'r swyddi newydd yma i Fôn ers i'r gwaith alwminiwm orffen smeltio ac mae nhw'n haeddu ein diolchiadau."

"Rydym yn hynod falch fod y cyngor yn ffafrio ein cynlluniau ar gyfer y safle," meddai Pennaeth Lateral Power, Sean McCormick.

"Bydd y cynllun yn darparu trydan ar gyfer y rhwydwaith ond hefyd yn darparu cynnyrch bwyd ffres.

'Profion'

"Mae hynnyn golygu y bydd angen mewnforio llai o fwydydd ac felly'n lleihau yr ôl troed carbon.

"Rydym yn credu y bydd yna 400 yn cael eu cyflogi yn ystod cyfnod cynta'r datblygu ... a dyw hynny ddim yn cynnwys adeiladwyr.

Dywedodd yr AC: "Rwy'n deall fod Lateral Power wedi pasio'r holl brofion diwydrwydd dyledus ac y bydd yn bartneriaeth ariannol ddiogel o nifer o gwmnïau.

"Rydw i'n optimistaidd iawn felly y bydd eu gwaith biomas yn llwyddiant gan gyflogi sawl cant o bobl leol.

'Hwb'

"Mi fydd yn hwb sylweddol hefyd i fusnesau lleol ac economi Môn yn ehangach."

Daeth y gwaith cynhyrchu alwminiwm i ben ar y safle ddwy flynedd yn ôl gan olygu colli 400 o swyddi.

Yn ôl y sôn, roedd nifer o gwmnïau yn awyddus i reoli'r safle.

Fe gafodd perchnogion Alwminiwm Môn - Rio Tinto - Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn ddweud eu dweud yn y broses.

Eisoes mae llywodraeth y DU wedi rhoi caniatâd i godi gorsaf bŵer biomas ar y safle.