Adolygiad wedi beirniadaeth tribiwnlys
- Cyhoeddwyd

Mae sefyliad sy'n cynorthwyo grwpiau gwirfoddol wedi dechrau adolygiad wedi iddyn nhw gael eu beirniadu mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Daeth y cyhoeddiad gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (Avow) wrth iddyn nhw gadarnhau na fyddan nhw'n apelio yn erbyn dyfarniad y tribiwnlys.
Dywedodd y tribiwnlys fod "proses gwynion Avow yn ffug".
Mae cwmni yswiriant Avow wedi talu ffi anhysbys i gyn aelod o'u staff, Genny Bove, a wnaeth gwyn lwyddiannus i'r tribiwnlys yn dweud iddi gael ei diswyddo ar gam.
Daeth yr achos yn sgil ei hymdrechion i newid y goleuadau yn swyddfa Avow am eu bod yn cyfrannu at ei phroblem gyda chur pen meigryn.
Gwahaniaethau
Fe wnaeth y tribiwnlys hefyd wirio honiad Ms Bove o wahaniaethu ar sail anabledd, gwahaniaethu uniongyrchol ac erledigaeth.
Pan gafodd y dyfarniad ei gyhoeddi ym mis Medi, dywedodd Avow nad oedd yn fodlon gwneud sylw ar y mater am eu bod yn ystyried apelio.
Dywedodd cadeirydd Avow, Mervyn Rosenberg, fod y materion dan sylw wedi digwydd dros ddwy flynedd yn ôl, a bod "nifer o newidiadau wedi digwydd o fewn Avow yn y cyfamser".
"Nid oeddwn yn medru ymateb i unrhyw sylw cyhoeddus ar ganfyddiadau'r tribiwnlys rhag ofn i ni beryglu'r yswiriant tra ein bod yn ystyried apelio, ond mae'r broblem yna wedi mynd bellach.
'Ymateb cadarnhaol'
"O ganlyniad i'n distawrwydd, rwy'n falch o ddweud nad oes arian elusennol wedi mynd i'r swm a roddwyd i Ms Bove."
Ychwanegodd fod y sefydliad yn derbyn cefnogaeth gan y Comisiwn Elusennau ers dechrau adolygiad o feirniadaeth y tribiwnlys gyda chadeirydd annibynnol a dau ymddiriedolwr o Avow oedd ddim yn gysylltiedig â'r grŵp pan ddigwyddodd yr anghydfod gyda Ms Bove.
Dywedodd fod cefnogaeth y Comisiwn yn brawf "nad ydym wedi eistedd ar ein dwylo yn ystod y cyfnod o ddistawrwydd a bod llawer yn digwydd o dan yr wyneb".
Mewn llythyr at ymddiriedolwyr Avow, dywedodd y byddai gweithredoedd y sefydliad yn "eu galluogi i ateb y feirniadaeth gan y tribiwnlys a chryfhau trefn lywodraethol Avow".
Mae Avow yn un o 19 o sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cymorth i grwpiau gwirfoddol a chymunedol, ac mae hefyd yn gweinyddu cynlluniau grantiau.